Tlodi plant - llun o wefan y Child Poverty Action Group
Mae un o bob pump plentyn yn y Deyrnas Unedig yn byw dan y trothwy tlodi, yn ôl ffigurau sy’n cael eu cyhoeddi heddiw gan yr Ymmgyrch i Roi Pen ar Dlodi Plant.

Mewn rhai ardaloedd di-fraint yn ninasoedd Llundain, Belffast, Glasgow, Birmingham, Lerpwl a Middlesbrough roedd pedwar o bob 10 plentyn yn byw mewn tlodi yn 2012.

Mae’r sefyllfa gyffredinol yn well nag yn 2011, meddai’r elusen, ar wahân i ogledd ddwyrain Lloegr ble mae tlodi plant wedi cynyddu yn Newcastle a Middlesbrough.

Roedd tlodi plant ar ei isaf yn etholaeth y Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, yn Sheffield Hallam, ble roedd y ffigwr dan 5%. Roedd y ganran yn isel hefyd yn etholaeth David Cameron yn Witney – o dan 10%.

Gwahaniaethau o ardal i ardal

Roedd y gyfradd yn amrywio o fewn dinasoedd hyd yn oed, meddai’r Ymgyrch gyda 41% yn byw mewn tlodi yn Poplar a Limehouse yn Llundain, o gymharu â 7% yn ardal Richmond.

“Mae’r gwahaniaethau mawr ar draws y wlad wedi caledu wrth i blant gael eu dal mewn tlodi ac anfantais tymor hir,” meddai Enver Solomon, cadeirydd yr Ymgyrch.

Yn ôl Rhian Beynon o Family Action mae angen cymysgedd o gefnogaeth gan wasanaethau a’r system les, a’r Llywodraeth sy’n “anfon y neges bwysicaf ar y polisiau hyn i awdurdodau lleol”.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Waith a Phensiynau eu bod nhw’n mynd i’r afael â ffactorau sy’n cyfrannu at dlodi plant, megis diffyg gwaith, diffyg addysg, a theuloedd yn chwalu.