Fe fyddai Plaid Cymru’n dileu swyddi Comisiynwyr yr Heddlu ac yn sicrhau fod heddluoedd yn ateb yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru.

Ac yn ôl arweinydd y blaid, mae angen i’r holl system gyfiawnder troseddol – gan gynnwys y gwasanaeth prawf a charchardai – ddod yn gyfrifoldeb i’r llywodraeth yng Nghaerdydd.

Roedd Leanne Wood yn siarad yn y Cynulliad mewn dadl ar ddatganoli pwerau’r heddlu gan honni bod y Llywodraeth Lafur wedi newid eu meddwl tros hynny.

Y cefndir

Fe gyhoeddodd y Llywodraeth ddydd Llun eu bod bellach o blaid datganoli plismona – er eu bod wedi gwrthwynebu hynny adeg yr etholiad diwetha’.

Roedd Plaid Cymru a Llafur wedi gwrthwynebu creu swyddi Comisiynwyr i ddisodli’r hen Awdurdodau Heddlu ac, yn ôl Leanne Wood, fe fydden nhw yn eu dileu.

Roedd y swyddogion newydd yn “creu ymerodraethau”, meddai, gyda staff gweinyddol a dirprwyon. Fe fyddai Plaid Cymru’n rhoi heddluoedd yn uniongyrchol o dan ofal y Llywodraeth.

‘Gwrthod torri cyflogau’

Fe ddywedodd Leanne Wood y byddai datganoli’n golygu y gallai Cymru wrthod gweithredu newidiadau i gyflogau ac amodau gwaith plismyn.

Roedd yn beirniadu’r Llywodraeth Lafur am fethu â galw am drosglwyddo’r grym tros holl faes cyfiawnder yng Nghymru.

“Mae’n golygu y gall y gwasanaethau hyn gael eu preifateiddio neu eu torri gan San Steffan yn y dyfodol,” meddai.

“Pam fyddai hi’n well gan Lafur gael gweinidog Torïaidd yn San Steffan yn gofalu am gyfiawnder yn hytrach na gweinidog Cymreig ym Mae Caerdydd?”