Caerfyrddin
Fe fydd rali’n cael ei chynnal yng Nghaerfyrddin ddydd Sadwrn i wrthwynebu cynllun i gau swyddfa bost a rhoi cownter mewn siop yn ei lle.

Ymhlith y siaradwyr yn erbyn y bwriad i gau swyddfa bost Caerfyrddin mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol dros Orllewin Caerfyrddin a De Penfro, Simon Hart, ac Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros ganolbarth a gorllewin Cymru, Simon Thomas.

Mae wyth prif swyddfa bost yng Nghymru yn wynebu’r fwyell a 70 ar draws Prydain. Mae’r Swyddfa Bost yn dadlau fod y canghennau yn gwneud colled a bod angen moderneiddio’r gwasanaeth, ond nid yw’r cynlluniau wrth fodd cynghorwyr sir yng Nghaerfyrddin.

“Dyma un o’r Swyddfeydd Post prysuraf yng ngorllewin Cymru,” meddai’r Cynghorydd Jeff Thomas, un o saith o gynghorwyr sir Plaid Cymru yn nhref Caerfyrddin sy’n gwrthwynebu’r cynllun.

“Mae’n chwarae rôl hanfodol yn denu pobol i Stryd y Brenin, lle mae siopau bach yn ei chael hi’n anodd iawn i oroesi’r dirwasgiad.

“Byddai colli Swyddfa’r Post yn ergyd greulon, ac yn enghraifft arall o sut mae asiantaethau canolog yn difetha gwasanaethau cyhoeddus a lleol.”

‘Torri addewid’

Mae cynghorwyr Plaid Cymru yn y dre yn dweud fod dwy swyddfa bost fechan wedi cau yng Nghaerfyrddin yn y blynyddoedd diwethaf, gydag addewid y byddai’r prif swyddfa bost y dre’n ddiogel.

“Maen nhw wedi mynd yn ôl ar eu gair,” meddai’r Cynghorydd Alan Speake.

Ymhlith y siaradwyr eraill yn y rali ar Sgwâr Nott fore Sadwrn mae Maer Caerfyrddin, Phil Grice, Cadeirydd y Siambr Fasnach Matt Davies a Chadeirydd Cymdeithas Ddinesig y dref, Arwyn Davies.