Mae pobol sy’n gaeth i ddefnyddio’r We yn gallu profi’r un teimladau â phobol sy’n gaeth i gyffuriau wrth orfod rhoi’r gorau iddi – meddai ymchwilwyr o Gymru.
Ac maen nhw’n dweud fod tystiolaeth yn awgrymu bod rhai’n niweidio eu hiechyd trwy dreulio gormod o amser ar y We.
Dyma ganlyniad ymchwil newydd sydd wedi ei gynnal ar y cyd rhwng Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Milan yn yr Eidal.
Mae’r gwaith ymchwil, y cyntaf o’i fath yn y byd, wedi astudio’r effeithiau seicolegol ar bobol sy’n gaeth i’r We, ac wedi darganfod eu bod yn profi teimladau negyddol tebyg iawn i ddefnyddwyr y cyffur ecstasi.
Cafodd yr ymchwil ei gynnal gan yr Athro Phil Reed o Adran Seicoleg y Brifysgol a’r Athro Lisa A. Osborne, o’r Ysgol Feddygaeth, a’i gyhoeddi yn y cylchgrawn rhyngwladol, PLOS ONE.
Ansicrwydd ynglŷn â dibyniaeth
Mae peth ansicrwydd ynglŷn â dibyniaeth ar y We a sut yn union mae’n effeithio ar ddioddefwyr. Ond mae’r ymchwil yma yn dangos eu bod yn profi teimladau seicolegol negyddol wrth roi’r gorau iddi.
“Mae ein canlyniadau yn dangos bod tua hanner y bobol yn yr astudiaeth yn treulio cymaint o amser ar y We ei fod yn achosi niwed i’w bywydau,” meddai Phil Reed.
“Pan fydd y bobol yma’n dod oddi ar y We, maen nhw’n profi teimladau negyddol, yn union fel pobol sy’n dod oddi ar gyffuriau anghyfreithlon fel ecstasi.
“Mae’r canlyniadau’n awgrymu bod defnyddio gormod ar y We yn gallu achosi peryglon i iechyd bobol.”
Mae’r ymchwil hefyd yn awgrymu bod y rheiny sy’n defnyddio’r rhyngrwyd yn aml iawn yn dangos mwy o arwyddion o iselder ysbryd ac awtistiaeth.