Neuadd y Sir, Caerfyrddin
Mae achos enllib yn dechrau heddiw rhwng Prif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin a blogiwr lleol.

Mae Jacqui Thompson o Lanwrda, sy’n blogio dan yr enw ‘Caebrwyn’ ac wedi bod yn feirniadol o bolisïau cynllunio’r cyngor sir, yn dwyn achos yn erbyn y Prif Weithredwr, Mark James.

Ond mae e hefyd yn dwyn achos o enllib yn ei herbyn hi, ac mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn rhoi arian at y pwrpas.

Mae’n anghyfreithlon i awdurdod lleol ddwyn achos enllib ond mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn dweud ei bod hi’n gymwys mewn “amgylchiadau eithriadol” iddyn nhw sicrhau nad yw un o’u swyddogion nhw ar ei golled yn ariannol mewn achos enllib.

Roedd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi newid ei chyfansoddiad yn 2008 er mwyn caniatáu i’r cyngor sir ariannu achosion enllib.

Catch 22

Mae’r achos enllib rhwng Mark James a Jacqui Thompson wedi cael sylw y tu hwnt i Sir Gaerfyrddin a Chymru oherwydd y defnydd o arian trethdalwyr.

“Y Catch 22 yw bod Caebrwyn yn drethdalwr sydd i bob pwrpas yn ariannu’r achos enllib yn ei herbyn hi,” meddai’r Athro Newyddiaduraeth ym mhrifysgol City yn Llundain, Heather Brooke.

Cau cegau’r cyfryngau?

Yn ddiweddar mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cael ei gyhuddo o geisio atal beirniadaeth.

Ym mis Rhagfyr cyhuddodd papur y South Wales Guardian y Cyngor Sir o ymddwyn “fel rhyw wladwriaeth Eastern Bloc o’r 1960au” am wrthod hysbysebu yn y papur yn dilyn erthyglau beirniadol.

Ym mis Ionawr roedd grŵp Plaid Cymru wedi cyhuddo’r cyngor sir o fod yn “drahaus ac awtocrataidd” ac wedi dwyn cynnig i drafod rhyddid y wasg yn y siambr.

Cafodd y cynnig ei drechu gan y glymblaid Llafur-Annibynnol sy’n rheoli’r cyngor.