Mae hyfforddwr Cymru Rob Howley wedi rhoi taw ar unrhyw fân-siarad am gapteniaeth Cymru trwy gyhoeddi ei dîm ar gyfer yr Eidal yn gynnar.

Mae Howley wedi penderfynu cadw at yr un 15 a ddaeth gartre’ o Ffrainc gyda buddugoliaeth, gyda Ryan Jones yn gapten unwaith eto.

“Rydym ni wedi penderfynu gwobrwyo perfformiad y chwaraewyr,” meddai Rob Howley.

“Roedd Ryan yn wych o ran ei arweinyddiaeth.

“Mae Sam yn dal i deimlo poen yn ei ysgwydd ac mae’n gwella, ond rwyf eisiau gwneud yn glir mai’r tîm sy’n dod gyntaf a’r ffordd y chwaraeon nhw maen nhw’n haeddu dechrau eto.”

Bydd yr eilyddion yn cael eu cyhoeddi ddydd Mawrth nesaf, cyn i’r garfan deithio  i Rufain ar gyfer y gêm ar Chwefror 23.

Mae disgwyl y bydd Sam Warburton ac Alun-Wyn Jones, gafodd ei ychwanegu i’r garfan heddiw, yn cael lle ar y fainc.