Gall Casnewydd hefyd ddringo’r gynghrair heno, mae posib symud i’r drydydd safle os gallen nhw guro Mansfield yn Rodney Parade.
Yn dilyn gêm siomedig yn erbyn Tamworth ddydd Sadwrn, mae’r rheolwr Justin Edinburgh yn siŵr bydd y tîm yn benderfynol o wneud yn well heno. Ond yn dilyn buddugoliaeth Mansfield o 8-1 yn erbyn Barrow ddydd Sadwrn, ni fydd yn dasg hawdd.
“Ni fydd angen rhoi llawer o anogaeth i roi hwb i’r tîm. Bydd hi’n anodd, yn enwedig ar ôl eu gêm ddiwethaf, ond ar ein diwrnod gallen ni guro unrhyw dîm,” meddai Edinburgh.
Bydd Wrecsam yn chwarae Henffordd a Casnewydd yn chwarae Mansfield am 7.45yh.