Bydd clwb pêl-droed Wrecsam yn gobeithio ennill 3 phwynt a dychwelyd i frig Uwch Gynghrair y Blue Square heno, pan fyddan nhw’n herio Henffordd.
Gall y Dreigiau fanteisio ar y ffaith bod gêm Grimsby, sydd ar flaen y gynghrair, wedi ei ohirio oherwydd cae wlyb.
Os gall dynion Andy Morrell guro oddi cartref heno, byddan nhw’n symud yn gyfartal â Grimsby ar 58 pwynt, ond mae siawns iddyn nhw fynd ar y blaen ar wahaniaeth goliau, yn dibynnu ar y canlyniad.
Llwyddodd Henffordd i guro Wrecsam yn y Cae Râs yn gynt yn y tymor, a bydd y rheolwr Andy Morrell yn gobeithio am well perfformiad gan ei dîm heno.