Mae Ffrainc wedi gwneud pum newid i’w carfan 23 dyn fydd yn cwrdd â Lloegr ar Chwefror 23.
“Mae angen dod ag ychydig o ffresni i’r garfan,” meddai’r hyfforddwr Philippe Saint-Andre, sydd dan bwysau mawr ar ôl i’w dim golli i’r Eidal a Chymru.
Mae’r asgellwr profiadol Vincent Clerc yn dychwelyd ar ôl gwella o anaf. Yn dod i mewn i’r garfan gydag ef mae’r blaenasgellwyr Antonie Claassen a Yannick Nyanga, yr ail-reng Christophe Samson a’r prop profiadol. Thomas Domingo
Mae’r canolwr Maxime Mermoz yn colli ei le, ynghyd â Damien Chouly, Yannick Forestier a Romain Taofifenua. Mae gan y blaenasgellwr Fulgence Ouedraogo anaf ar ôl y gêm yn erbyn Cymru.
Cian Healy
Fe all prop pen rhydd Iwerddon golli gweddill y bencampwriaeth ar ôl cael ei enwi am ddamsgen ar un o chwaraewyr Lloegr ddoe.
Mae gan Cian Healy wrandawiad yn Llundain ddydd Mercher ar ôl i’r camerau teledu ei ddal yn taro pigwrn Dan Cole o Loegr.
Aeth hi’n ffeit rhwng blaenwyr y ddau dîm yn dilyn y digwyddiad yn yr Aviva yn Nulyn.
Mae gêm nesaf Iwerddon yn erbyn yr Alban ar Chwefror 24.