George North
Mae’r asgellwr a sgoriodd y cais tyngedfennol dros Gymru ym Mharis yn dweud fod ei dad wedi cael dylanwad mawr arno.
Ac ar ôl i George North dirio’r bêl yn y Stade de France, rhedodd ei dad – sy’n Sais – ar y cae i’w longyfarch, cyn cael ei daclo’n ddisymwyth gan swyddogion y maes!
Mewn llyfr newydd sy’n dweud hanes ei fywyd hyd yn hyn, mae’r chwaraewr tal o Gaergybi, Ynys Môn yn dweud bod hoffter ei dad o ymarfer corff wedi bod yn esiampl iddo yntau.
Codi pwysau
“Roedd Dad yn mwynhau pob math o ymarfer corff – rhedeg, seiclo a chodi pwysau yn arbennig,” meddai George North yn y llyfr a fydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Gwener.
“Ro’n i’n 13 oed yn mynd gydag o i’r gym i godi pwysau am y tro cynta’, ond ar orchymyn Dad, fyddwn i ddim yn cael rhoi unrhyw bwysau ar y bar.
“Roeddwn i’n rhy ifanc i godi unrhyw bwysau go iawn, yn ei farn o, dim hyd yn oed y dumb-bells.
“Felly dyna le byddwn i, yng nghanol pawb arall yn y gym, yn codi bar gwag a dim pwysau arno fo!
“Roedd Dad yn gwybod mai yn raddol roedd angen adeiladu cyhyrau, ac felly byddai’n fy nal yn ôl rhag camu ymlaen yn rhy gyflym – er mawr ddifyrrwch i’r hogia eraill yn y gym, oedd yn galw enwau arna i ac yn chwerthin am fy mhen.”
Cystadlu efo Dad
Pan ddechreuodd roi pwysau ar y bar, dywedodd George North ei fod yn fuan yn codi mwy na’r hogiau oedd yn ei wawdio, ac mai’r nod oedd codi cymaint â’i dad.
“Roedd y cystadlu hwnnw yn erbyn Dad yn gyfnod pwysig iawn i fi – wrth gwrs, dechreuodd hyn i gyd cyn i’r rygbi gydio yndda i go iawn.
“Cynllun tymor hir ganddo fo i ddatblygu fy ffitrwydd oedd o, felly pan ddechreuodd y rygbi lenwi fy mryd, roedd hyn yn baratoad perffaith i fi.”
Stori Sydyn
Mae ‘r llyfr, sy’n cael ei gyhoeddi gan Y Lolfa fel rhan o’r gyfres Stori Sydyn ac wedi ei ysgrifennu ar y cyd ag Alun Gibbard, yn cynnwys atgofion George North o chwarae i glwb rygbi Llangefni, ei fywyd yng ngholeg Llanymddyfri, a’i yrfa gyda’r Sgarlets a Chymru.