Yn fuan, bydd gan bentref ar droed yr Wyddfa sy’n boblogaidd ymysg dringwyr a cherddwyr gaplan cyntaf ar gyfer gymuned awyr agored.

Mae Esgobaeth Bangor, mewn partneriaeth â Gweinidogaethau Gwledig, wedi penodi Jill Ireland yn Gaplan Awyr Agored newydd Llanberis.

Cenhadaeth Jill Ireland fydd pontio’r bwlch rhwng ffydd a’r awyr agored, meithrin cysylltiadau â’r gymuned leol a meithrin perthnasoedd o fewn cymuned awyr agored Llanberis.

‘Cyffrous’

Fel Caplan Awyr Agored, mae Jill Ireland yn gobeithio creu lle croesawgar lle gall unigolion o bob cefndir archwilio ysbrydolrwydd gyda Pharc Cenedlaethol Eryri yn “gefnlen drawiadol”.

Mae Jill Ireland wedi ymroi i arwain gweinidogaeth arloesol yn y gymuned chwaraeon ar ôl treulio deng mlynedd yng Ngwlad Thai yn datblygu gweinidogaeth chwaraeon ar gyfer Sports Friends Asia.

Mae hi hefyd wedi gweithio i Gristnogion mewn Chwaraeon lle bu’n cyflwyno digwyddiadau efengylu ac allgymorth i bobl o’r byd chwaraeon, a chaplaniaeth i athletwyr elît.

Ers 2015 mae hefyd wedi bod yn gweithio fel Dirprwy Arweinydd Byd-eang gyda Sports Friends.

“Mae’r gwahoddiad i’r Gaplaniaeth Awyr Agored hon i fyw’r efengyl mewn gair a gweithred ymhlith cymuned awyr agored Bro Eryri yn fy nghyffroi!” meddai Jill Ireland.

“Rwy’n edrych ymlaen at symud i Lanberis, dechrau dysgu Cymraeg a dod yn weithgar yng nghymuned awyr agored Eryri.

“Rwy’n gyffrous i ddechrau adeiladu cysylltiadau a pherthynas gyda’r awyr agored.

“Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â’r tîm gweinidogaeth leol, y grŵp llywio, noddwyr prosiect a chydweithwyr esgobaethol gan geisio bod yn sylwgar i ble a sut mae Duw eisoes ar waith o fewn y gymuned awyr agored, a chanfod y ffordd orau o fod yn rhan o hynny.”

‘Effaith ar dirwedd ysbrydol Llanberis’

Bydd Jill yn ymuno â’r Canon Naomi Starkey sydd newydd gael ei phenodi’n Arweinydd Ardal Gweinidogaeth Bro Eryri, sy’n cynnwys Penisa’rwaun, Llanberis a Nant Peris.

Mae’r penodiadau hyn yn arwain pennod newydd i gymuned Gristnogol Eryri sydd wedi bod heb arweinyddiaeth ysbrydol llawn amser ers chwe blynedd.

“P’un a ydynt yn byw yn lleol ai peidio, mae pawb yn y gymuned awyr agored yn caru Eryri,” meddai’r Archddiacon David Parry wrth groesawu Jill Ireland i Esgobaeth Bangor.

“Mae penodiad Jill yn arwydd o ymrwymiad yr Eglwys i bawb sy’n dod o hyd i lawenydd ac ystyr yn y dirwedd werthfawr hon.

“Rydym mor ddiolchgar i’r Gweinidogaethau Gwledig am eu cymorth ac ni allwn aros i groesawu Jill a fydd, rwy’n siŵr, yn cael effaith ar dirwedd ysbrydol Llanberis.”

‘Ffydd a diddordebau’

“Bydd y gaplaniaeth newydd hon i’r gymuned awyr agored yn un o lawer o’i math yn yr esgobaeth,” ychwanega’r Canon David Morris, Cyfarwyddwr y Weinidogaeth.

“Rydym eisiau helpu pobol i wneud cysylltiadau â ffydd trwy eu diddordebau a’u hobïau.”

Bydd gwasanaeth awyr agored i gychwyn gweinidogaeth Jill Ireland yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn, Mehefin 15 ger Llyn Padarn.