Dydy dyddiad agor gorsaf bysiau newydd Caerdydd dal heb gael ei gadarnhau, ond mae disgwyl cyhoeddiad “yn yr wythnosau nesaf”.

Roedd Trafnidiaeth Cymru wedi dweud yn gynharach eleni y byddai’r orsaf yn agor yn ystod gwanwyn 2024.

Mae’n ymddangos fel bod yr adeilad newydd yn y Sgwâr Canolog bron yn barod, ond mae angen gwaith pellach tu mewn i sicrhau ei fod yn barod i agor.

Wedi gofyn i Drafnidiaeth Cymru am ddyddiad penodol dros y ddeufis nesaf, dywedodd llefarydd: “Byddan ni’n cyhoeddi dyddiad agor yn yr wythnosau nesaf.”

Oedi

Fe wnaeth Cyngor Caerdydd roi caniatâd cynllunio i’r datblygiad gwerth £100m ym mis Tachwedd 2018.

Mae’r ddinas wedi bod heb orsaf bws ers 2015, ac ers i gynlluniau gael eu cymeradwyo mae cryn edrych ymlaen wedi bod at agor y safle.

Fodd bynnag, mae penderfynu ar ddyddiad wedi bod yn anodd yn sgil oedi.

Yn wreiddiol, roedd disgwyl i’r orsaf fod yn barod erbyn 2022 a phan gafodd y cynlluniau eu cymeradwyo, dywedodd Cyngor Caerdydd eu bod nhw’n gobeithio y byddai bysiau yn ei ddefnyddio erbyn 2021.

Roedd disgwyl i adeilad wyth llawr sy’n rhan o’r datblygiad agor mewn camau, gyda’r cam cyntaf yn agor yn ystod gwanwyn 2023.

Adroddwyd wedyn na fyddai hynny’n digwydd nes diwedd 2023.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2022 y byddai Trafnidiaeth Cymru’n paratoi’r adeilad unwaith y byddai’r gwaith adeiladu’n gorffen fel bod yr orsaf yn barod i deithwyr erbyn haf 2023.

Daeth cadarnhad ym mis Ionawr 2024 y byddai’r holl ddatblygiad yn agor yn ystod gwanwyn 2024, yn hytrach nag mewn camau.

Bydd safleoedd i 14 bws yno, 100,000 troedfedd sgwâr o ofod i swyddfeydd, unedau i siopau a 318 fflat.

Trafnidiaeth Cymru fydd yn gyfrifol am yr orsaf bysiau ond bydd gweddill y safle’n cael ei rhentu.