Cafwyd cadarnhad heddiw gan Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig, y bydd ceisiadau ar gyfer y cynllun newydd i roi cymorth i’r diwydiant llaeth yng Nghymru yn agor ar 18 Mehefin.

Bydd y cynllun yma’n cefnogi’r ffermwyr gydag effaith y pandemig, wedi i’r sectorau gwasanaethau bwyd a lletygarwch gau.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’r cynllun i gefnogi’r diwydiant llaeth yng Nghymru wedi ei gynllunio i gefnogi cynhyrchwyr llaeth i gynnal eu gallu i gynhyrchu yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Bydd y cyfnod y gellir gwneud cais am y cynllun ar agor tan 14 Awst 2020 ac ar yr amod bod yr holl ddogfennau angenrheidiol wedi’u cyflwyno a’u dilysu, gallai ceisiadau llwyddiannus ddisgwyl taliad o fewn 10 niwrnod.

Trwy’r gronfa, bydd angen i ffermwyr llaeth cymwys ddangos eu bod wedi dioddef gostyngiad o 25% neu fwy yn y pris a dalwyd ar gyfartaledd am eu llaeth ym mis Ebrill ac yn dilyn hynny ym mis Mai, o gymharu â mis Chwefror 2020.

Bydd gan ffermwyr cymwys hawl i hyd at £10,000 i’w helpu i barhau i allu talu costau a chynnal eu gallu i gynhyrchu heb effeithio ar les anifeiliaid a’r amgylchedd.

Parhau i weithredu

“Mae ein cynllun i gefnogi’r diwydiant llaeth yno i gefnogi’r rhai sydd wedi dioddef fwyaf oherwydd amodau’r farchnad o ganlyniad i’r pandemig hwn,” meddai Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig, “ac i sicrhau y gallan nhw barhau i weithredu heb iddo gael effaith ar eu safonau uchel o ran lles anifeiliaid a gwarchod yr amgylchedd.

“Hoffwn annog y grŵp craidd hwn o ffermwyr llaeth i wneud cais am y taliad unigryw hwn drwy RPW Ar-lein i helpu i wneud yn iawn am rai o’r effeithiau ariannol y maent wedi’u gweld.

“Hoffwn hefyd ddiolch i gynrychiolwyr y diwydiant ar y Grŵp Ffocws Llaeth am eu cyfraniadau wrth helpu inni ddatblygu’r cynllun.

“Byddwn yn parhau i gydweithio â’r sector yn ystod y cyfnod heriol hwn, felly gyda’n gilydd gallwn sicrhau dyfodol cadarn i’n diwydiant llaeth yng Nghymru.”