Fe fydd Gerald yr Ysgwrn, nai’r bardd Rhyfel Byd Cyntaf Hedd Wyn yn cyrraedd ei ben-blwydd yn 90 yfory (dydd Mercher, Chwefror 6) – ond “eisiau anghofio am y peth” y mae’r ffermwr.
“Cuddio o dan y gwely fydda’ i os fedra’i!” meddai wrth golwg360 gan chwerthin, “does ‘na neb isio dathlu bod yn 90 oed siŵr, ti’n blydi hen, dwyt!”
“Eistedd yn edrych allan yn fan hyn ag yn ffarmio drw ffenast,” o’i gartref Yr Ysgwrn, fydd o’n ei wneud fory, “jest ‘r’un fath ag arfar”.
Mae Gerald Williams wedi bod yn edrych ar ôl Yr Ysgwrn ers 65 mlynedd, ar ôl addo i’w fam yn 1954 y byddai’n cadw’r drysau yn agored i ymwelwyr o bob cwr o‘r byd, yn rhad ac am ddim.
Fe gafodd rhyw fân ddathliadau pen-blwydd nos Sul diwethaf (Chwefror 3) gyda “rhyw forty five o’n cymdogion – a diawch, aeth y diwrnod yn well nag oni’n feddwl,” meddai.
Ar ddiwedd y noson cafodd glywed rhai o’i hoff ganeuon yn cael eu canu ar raglen Ar Eich Cais ar Radio Cymru gan gynnwys fersiwn y baswr o Bennal, Richard Rees, o eiriau Eifion Wyn, ‘Ora Pro Nobis’.
“Rhyw fachgan bach o’r wlad ydw i,” meddai wedyn, “ac i fod yn onast, dyn heb ôl – dw i’m isio stwffio’n hun ymlaen o gwbwl.”