Mae artist o Sir Ddinbych wedi creu cawgiau a bowlenni gan ddefnyddio gwlân dafad.
Mae Ellie Derbyshire o Hafotty Interiors yn defnyddio gwlân o stâd y Rhug ger Corwen i greu’r llestri unigryw.
Mae’r gwlân wedi cael ei gymryd o’r ddiadell o ddefaid Miwl Tiroedd y Gogledd sy’n cael ei chadw ar dir yr ystâd.
“Dw i’n mwynhau gweithio gyda deunyddiau naturiol ac mae gan wlân Rhug deimlad hyfryd,” meddai Ellie Derbyshire.
“Mae’r gwlân wedi bod trwy broses o baratoi cyn bod modd creu haenau ohono a’i osod gyda resin, er mwyn ei wneud i edrych fel mynyddoedd Cymru, sef yr hyn sydd wedi ysbrydoli’r darnau hyn.”
Bu’r artist hefyd yn gwneud darluniau o feision yr ystâd ar gyfer prosiect celf arall.