Mae cerddi gan aelodau clwb cefnogwyr ifanc Caernarfon i’w gweld o gwmpas cae y tîm pêl-droed yn y dre’.
Mae’r geiriau melyn ar gefndir gwyrdd – lliwiau’r clwb – yn dangos beth mae’r bechgyn yn ei feddwl o’u harwyr lleol, a’r dynion y maen nhw’n dod allan i’w gwylio’n chwarae bob dydd Sadwrn.
Mae’r asgellwr hoffus, Darren Thomas, yn cael ei ddisgrifio fel “y Cofi Messi – medrus, arswydus, ansbaradigaethus”, a’r capten, Nathan Craig, fel eu “craig”.
Mae yna ddigon o hiwmor y Cofis hefyd, gyda “deffendar blin, yn disgyn ar ei din” yn cael mensh yn y gerdd ‘Sginio’. Ac yn y gerdd ‘Hanner Amser’ mae cael “Chips a Coke gan Tina a Bethan” yn dangos fod pawb yn nabod ei gilydd yn yr Ofal.
Sesiynau sgwennu
Kyle Williams, Byron Allsup, Jac Roberts, Kailem Evans, Chris Roberts, Owain Evans, Byron Firsher a Jaden Owen ydi’r hogiau sydd wedi cael eu hysbrydoli i gyfansoddi cerddi.
Roedd capten tim pel-droed Caernarfon, Nathan Craig yn rhan o’r sesiynau lle cafodd y cerddi eu hysgrifennu -a hynny gyda dau o brifeirdd sy’n byw yn y Dre’, Rhys Iorwerth ac Ifor ap Glyn.
“Roedd o’n ffantastig gal y Cofis i ddod fyny efo geiria’, cyn cael help Ifor a Rhys i droi nhw mewn i gerddi,” meddai Nathan Craig. Mae’r hogia’ yn dod i watshiad bob gêm Caernarfon felly oedd o’n haws dod i fyny efo geiria’ am y clwb.
“Rydan ni’n reit falch o’r outcome – ma’r hogia wedi gneud yn briliant,” meddai wedyn.
Pêl-droed, barddoniaeth, cymdeithas
“Gyda’r cerddi yn sôn am chwarae pêl-droed a gwylio pêl-droed, roedd yn ffordd o gael plant i geisio cyffwrdd rwbath cyffredin ac ymhelaethu gyda rwbath maen nhw’n ei adnabod,” meddai Ifor ap Glyn sydd hefyd ar hyn o bryd yn Fardd Cenedlaethol Cymru.
“Mae’n amlwg bod gwerth celfyddydol i farddoniaeth, ond mae hefyd gwerth cymdeithasol iddo. Mae llenyddiaeth yn rhywbeth sy’n ffitio pawb, yn rhoi llais i bawb, a dw i a Rhys yn gweld hyn yn bwysig.
“Mae’n bwysig mynd â llenyddiaeth at bobol ac i lefydd annisgwyl.”