Bydd cynghorwyr Wrecsam heddiw yn ystyried cais am fferm dyrcwn ar gyfer 20,000 o adar.
Bwriad cwmni Aviagen Turkeys Cyf ger pentref Llai yw sefydlu chwe adeilad magu tyrcwn, ynghyd ag adeiladau amlbwrpas a heolydd mynediad.
O’r 51 cymydog sy’n byw ger safle arfaethedig y fferm, mae pedwar wedi codi pryderon yn ymwneud â lles yr anifeiliaid, llygredd, sŵn traffig a’r arogl.
Mae adroddiad gan swyddogion cynllunio wedi argymell cymeradwyo’r cynllun gan fod Aviagen Turkeys yn gwmni sydd yn bridio mathau arbennig o dyrcwn “sydd yn hynod o bwysig i’r diwydiant yn Ewrop ac yng ngweddill y byd.”
Bydd cynghorwyr hefyd yn ystyried cais Fferm Talwrn ger Wrecsam, i ehangu ysgubor er mwyn dyblu nifer yr adar maen nhw’n medru eu cadw i 31,400.