Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am yr oedi wrth gyhoeddi adroddiad ar orlifoedd stormydd.

Bydd yr adroddiad yn rhan o’r cynllun gweithredu rheoleiddio amgylcheddol ar gyfer gorlifoedd storm a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2022, ac roedd disgwyl iddo gael ei gyhoeddi erbyn mis Mawrth eleni.

Yn ôl cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau bod cwmnïau dwr yn rheoli a gweithredu rhwydweithiau carthffosydd yn effeithiol, mae angen newid ac atgyfnerthu dulliau rheoleiddio.

Bwriad yr adroddiad oedd sicrhau bod data gorlifoedd storm ar gael yn hawdd ac yn ddealladwy i randdeiliaid ac i’r cyhoedd.

Wrth gyfeirio at yr adroddiad, nododd Llywodraeth Cymru yn eu cynllun gwreiddiol:

“Bydd y tasglu yn adolygu allbynnau’r astudiaeth annibynnol (a fydd yn cael ei chynnal yn haf 2022) i osod targedau tymor byr, canolig a hirdymor cyraeddadwy a fforddiadwy ar gyfer atal niwed ecolegol i’n dyfroedd afonol.

“Bydd targedau y cytunwyd arnynt yna’n cael eu cyhoeddi o fewn y Cynllun Gweithredu Rheoleiddio.

“Rydym ni’n cydnabod bod angen rhoi cynlluniau ar waith i sicrhau nad oes unrhyw orlifoedd storm yn achosi niwed amgylcheddol i statws ecolegol ein hafonydd.”

Beth yw gorlifoedd storm?

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, mae nifer fawr o bibellau carthffosiaeth Cymru yn cyfuno dŵr gwastraff a dŵr glaw glan.

Yn ystod glaw trwm, gall swm y carthion fod yn fwy na beth gall y pibellau eu dal a gall hynny arwain at lifogydd mewn gweithfeydd carthion sy’n creu’r risg iddo orlifo cartrefi, busnesau a mannau agored os nad oes ganddo rywle arall i fynd.

Bwriad gorlifoedd storm yw gweithio fel falfiau gorlif er mwyn lleihau’r risg o garthion yn gorlenwi mewn glaw trwm trwy gyflwyno rhywle arall iddo fynd.

Fodd bynnag, caiff gorlifoedd storm ond eu defnyddio yn ystod glaw neu eira trwm pan nad oes unrhyw le arall i’r gwastraff fynd.

Mae rhai’n bryderus bod gorlifoedd storm yn llygru afonydd.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, mae’r carthion yn y carthffosydd yn cael eu gwanhau ac mae cyfeintiau mawr o ddŵr mewn afonydd yn sicrhau bod effaith carthion storm yn cael ei leihau.

“Annerbyniol”

“Digwyddodd chwarter yr holl ollyngiadau carthion yng Nghymru a Lloegr yng Nghymru’r llynedd,” meddai Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid yn yr Hinsawdd, yr Aelod o’r Senedd Ceidwadol Janet Finch-Saunder.

“Mae mwy na 600,000 o oriau o ollwng gwastraff i’n dyfrffyrdd yn annerbyniol ac mae angen i’r Llywodraeth Lafur gymryd camau ar unwaith.

“Datgelwyd hefyd bod chwech o’r afonydd sydd wedi’u llygru waethaf yng Nghymru.

“Byddech yn meddwl y byddai cyhoeddi’r adroddiad yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac eto dyma ni fis ar ôl y dyddiad cau heb unrhyw arwydd ohono.

“Mae bron i ddwy flynedd wedi mynd heibio ers i’r cynllun gweithredu hwn gael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ac mae gollwng carthion, oherwydd gorlifiadau stormydd, yn waeth nawr nag y bu erioed.

“Unwaith eto mae diffyg gweithredu Llafur Cymru yn amharu ar fywydau pobol Cymru.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.