Mae mwy na hanner o fwyd a phorthiant y DU bellach yn dod o dramor, yn ôl astudiaeth ddiweddar, ac mae hynny’n creu baich ar y gwledydd tlotach mewn perthynas â’u heffaith amgylcheddol.
Yn ôl ymchwilwyr o gyfuniad o sefydliadau, gan gynnwys Prifysgol Aberdeen, mae dwy ran o dair o’r tir sydd ei angen i gynhyrchu bwyd a phorthiant i’r DU wedi’i leoli dramor. Golyga hyn fod 64% o’r nwyon tŷ gwydr, mewn perthynas â chynhyrchu bwydydd i’r DU, yn cael eu hallyrru dramor.
Mae De America, gwledydd yr UE a De Ddwyrain Asia yn rhai o’r lleoliadau y mae’r DU yn cael eu bwydydd.
‘Anodd bod yn hunangynhaliol’
Yn ôl llefarydd ar ran yr astudiaeth, “mae’r DU yn dod yn gynyddol ddibynnol ar ffynonellau allanol, ac mae effaith amgylcheddol eu cyflenwad yn gynyddol gael ei ddadleoli dramor.”
Mae’r astudiaeth yn nodi fod y DU, ar hyn o bryd, yn mewnforio 50% o’u bwydydd a’u porthiant, tra bod 70% a 64% o effeithiau’r nwyon tŷ gwydr a’r grwndir yn cael eu lleoli dramor.
Er hyn, mae’r astudiaeth yn cydnabod fod y tueddiadau mewnforio yn cynorthwyo gwledydd llai datblygedig i ddatblygu’n economaidd drwy fasnachu byd-eang.
Ond, mae gwyddonwyr yn honni fod dibyniaeth gynyddol y DU ar fwydydd o dramor yn golygu y byddai hi’n anoddach i’r DU ddod yn hunangynhaliol.