Mae cwrs dysgu Cymraeg newydd ar gyfer y sector amaeth wedi cael ei lansio’r wythnos hon.

Bwriad y cwrs blasu 10 awr, sydd wedi’i deilwra ar gyfer y sector, yw rhoi rhyddid i ddysgwyr ei ddilyn yn eu hamser eu hunain ac ar eu cyflymder eu hunain.

Mae’r bartneriaeth newydd rhwng y Ganolfan Dysgu Cymraeg a Menter a Busnes yn deillio o un o argymhellion adroddiad ‘Iaith y Pridd’, gan Cyswllt Ffermio, oedd yn ystyried sut y gall y gymuned amaeth Gymraeg ei hiaith gyfrannu at y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Dangosodd gwaith ymchwil fod yna awydd i ddysgu Cymraeg ymysg ffermwyr di-Gymraeg, a bod gweithwyr yn y sector gyflenwi a gwasanaethau amaethyddol yn gweld defnydd ymarferol a gwerth masnachol i allu siarad yr iaith.

Un o’r argymhellion, felly, oedd ‘creu gwersi Cymraeg gyda chynnwys wedi ei lunio o gwmpas themâu amaethyddol’, ac mae’r cwrs ar-lein, sy’n rhan o gynllun Cymraeg Gwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg, yn anelu at wneud hynny.

“Anogaeth gychwynnol”

Mae Prif Weithredwr mudiad y Ffermwyr Ifanc, Phil Ellis, wrthi’n dilyn cwrs Dysgu Cymraeg ar hyn o bryd.

Mae 38% o aelodau’r mudiad yn ddi-Gymraeg, a dywed Phil Ellis y bydd y cwrs hwn o fudd i aelodau.

“Bydd y cwrs Dysgu Cymraeg yma o fudd mawr i’r aelodau hynny sydd yn edrych am yr anogaeth gychwynnol yna i ddysgu’r iaith,” meddai.

“Mae’r iaith Gymraeg yn rhan mor bwysig o ddiwylliant a threftadaeth cefn gwlad Cymru, ac mae’n wych gweld bod ymdrech i gynyddu’r nifer o bobl sy’n defnyddio’r iaith.”

Phil Ellis, Prif Weithredwr mudiad y Ffermwyr Ifanc

Dywed Dona Lewis, Dirprwy Brif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg, sydd â chyfrifoldeb dros gynllun Cymraeg Gwaith o fewn y Ganolfan, eu bod nhw’n “falch iawn” o’r bartneriaeth â Menter a Busnes.

“Rydym yn gwybod fod canran y siaradwyr Cymraeg yn y sector amaeth yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol, 43% o’i gymharu ag 19%, ac mae diddordeb i ddysgu Cymraeg o fewn y diwydiant,” meddai Donna Lewis.

“Trwy ei wneud yn gwrs hyblyg ar-lein mae posib ei ddilyn ar adegau sy’n gyfleus i bawb.”

Mae cyrsiau tebyg wedi cael eu datblygu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg ar gyfer sectorau megis iechyd a gofal, gwasanaethau cyhoeddus, twristiaeth a hamdden, a manwerthu hefyd.

“Rydym eisiau sicrhau fod ein cyrsiau blasu 10 awr ar-lein yn cynnig geirfa ddefnyddiol ar gyfer y gweithle,” meddai.

“Wrth greu’r cyrsiau hyn, rydym yn trafod gyda’r sectorau gwahanol ac yn sicrhau y bydd gweithwyr yn cael cyfle i ddysgu geirfa sylfaenol ar gyfer cynnal sgwrs fer yn y Gymraeg, sy’n berthnasol i’w maes gwaith hwy.”

‘Cadarnle i’r iaith’

Ychwanegodd Alun Jones, Prif Weithredwr Menter a Busnes, fod y sector amaeth yn “gadarnle i’r iaith Gymraeg”.

“Rydym yn gweld diddordeb cynyddol ymysg siaradwyr di-Gymraeg i ddysgu’r iaith,” meddai Alun Jones.

“Mae Lois Evans, un o staff Menter a Busnes sy’n gweithio ar y rhaglen Cyswllt Ffermio, hefyd yn diwtor Dysgu Cymraeg, a gweithiodd gydag arbenigwyr y Ganolfan i lunio cwrs sy’n gwbl berthnasol i’r gynulleidfa amaethyddol.”