Mae sefydliadau amaethyddol yng Nghymru wedi dod ynghyd i amlinellu eu pryderon ynghylch cyfeiriad polisi amaethyddol Cymru.
Mae’r ‘Papur Gwyn ar Amaethyddiaeth yng Nghymru’ yn nodi cyfres o gynigion i greu sector amaethyddol cynaliadwy ôl-Brexit dros y 15 i 20 mlynedd nesaf.
Wrth lansio’r Papur Gwyn, eglura Lesley Griffiths, Ysgrifennydd yr Amgylchedd, fod gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru ddatblygu system o gymorth i ffermwyr fydd yn arbennig i Gymru.
Er yr ymgynghori diweddar, ychydig iawn sydd wedi newid yn ôl Mudiad Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru ac undebau amaethyddol NFU Cymru ac Undeb Ffermwyr Cymru (UAC).
Maen nhw’n galw ar Lesley Griffiths i oedi ac ailystyried.
‘Croesffordd sylweddol’
“Mae ffermio yng Nghymru ar groesffordd sylweddol,” yn ôl NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru.
“Bydd y penderfyniadau a wneir gan lunwyr polisi yn ystod y misoedd nesaf yn siapio ac yn effeithio ar y sector am genedlaethau i ddod.
“Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi rhoi cyfle inni yng Nghymru lunio polisi uchelgeisiol sy’n galluogi Cymru i arwain y ffordd, gan sicrhau cyflenwad bwyd fforddiadwy diogel o ansawdd uchel i bawb yn y gymdeithas, darparu swyddi a chymunedau gwledig llewyrchus, i gyd wrth wella’r amgylchedd er budd pawb.
“Yn syml, ein huchelgais yw i Gymru gael ei chydnabod fel gwlad ragoriaeth sy’n arwain y byd ar gyfer ffermio sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd a chynhyrchu bwyd.
“Mae gennym gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i gael hyn yn iawn a galluogi Cymru wledig, ei phobl, cymunedau, iaith, tirwedd a’r amgylchedd i ffynnu ac felly o’r herwydd hyn rydym yn eich annog i ailystyried cyfeiriad a gweithio gyda ni i ddatblygu polisi uchelgeisiol sy’n ein galluogi i gyrraedd ein potensial.”
Ychwanega Katie Davies, Cadeirydd CFfI Cymru, fod rhaid i’r genhedlaeth nesaf fod yn ganolbwynt i’r polisi.
“Mae miloedd o bobl ifanc o bob rhan o Gymru yn ysu am greu gyrfa o fewn amaethyddiaeth yng Nghymru, gan gefnogi bwyd a ffermio,” meddai.
“Mae’n hanfodol ein bod ni’n gweithio gyda’n gilydd i ddod o hyd i ffordd ymlaen sy’n uchelgeisiol ac yn creu cyfleoedd i’r genhedlaeth nesaf.”