Mae elusen wedi rhybuddio bod peiriannau sychu dillad a allai fod yn ddiffygiol yn cael eu gwerthu ar-lein.
Mae cwmni Whirlpool yn cydnabod bod namau ar rhai o’u peiriannau, a’r wythnos diwethaf cafodd golau ei daflu dros ehangder y broblem.
Er nad oes sicrwydd ynglŷn â faint o beiriannau diffygiol sydd wedi cael eu gwerthu, mae’n bosib bod y ffigur mor uchel â 800,000, yn ôl y cwmni.
Yn sgil y cyfaddefiad yma, mae elusen Electrical Safety First (ESF) wedi datgelu bod peiriannau Whirlpool – rhai sydd ddim i fod cael eu gwerthu – yn cael eu gwerthu ar y we.
Mae’r peiriannau yn cael eu hysbysebu ar amryw o wefannau gan gynnwys eBay a Facebook, ac maen nhw’n cael eu gwerthu gan werthwyr gwahanol – nid y cwmni.
“Hollol annerbyniol”
Yn ôl un o benaethiaid ESF mae’n “hollol annerbyniol” bod y peiriannau yn cael eu gwerthu ar y we, ac mae angen gwneud rhagor i “godi ymwybyddiaeth”.
“Rydym yn ymwybodol bod rhai pobol sy’n eu gwerthu heb wybod nad ydyn nhw i fod cael eu gwerthu,” meddai Martyn Allen, Cyfarwyddwr Technegol ESF.
“A dyma’n union pam bod angen gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth am gynnyrch sydd yn destun hysbyseb recall neu ddiogelwch.”