Mae dau ddyn wedi’u hanfon i’r carchar am fewnforio miloedd o amffetaminau o’r Dwyrain Pell, a’u dosbarthu yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.
Fe gafodd y ddau eu dal fel rhan o Ymgyrch Etna oedd yn ceisio mynd i’r afael â delio mewn cyffuriau Dosbarth C ledled gwledydd Prydain.
Roedd Heddlu De Cymru yn rhan o’r cydweithio, trwy gynnal cyrch ar gyfeiriad yn ardal Pen-y-bont ym mis Mawrth 2019, ynghyd â thai eraill yn Abertawe, Porthcawl a Rhondda Cynon Taf ym mis Mehefin.
Mae dau ddyn wedi’u cael yn euog o fewnforio mwy na 350,000 o dabledi Diazepam, gwerth drost £32,000.
Fe blediodd Paul Jones, 30, o Tonypandy, Rhondda Cynon Taf, a Paul Roche, 45, o Ogledd Corneli, yn euog i ddosbarthu amffetaminau Dosbarth B yn ogystal.
Mae’r naill wedi’i ddedfrydu i 16 mis dan glo, a’r llall i wyth mis o garchar.