Bydd un o adeiladau mwyaf eiconig Caerfyrddin yn ailagor ym mis Awst dan enw newydd.

Mi gaeodd clwb ‘Y Parot’ ddiwedd y llynedd, ac ers hynny mae llawr waelod yr adeilad ar Stryd y Brenin wedi bod yn wag.

Er hynny mae siop recordiau’r Tangled Parrot wedi parhau ar agor ar y llawr uchaf, a bellach mae perchennog y siop a’r adeilad, Matt Davies, wedi dod o hyd i breswylydd i’r llawr waelod.

Dyn o Lerpwl yw Michael Hilton, Cyfarwyddwr Cwrw Cyf., ac mae yntau wedi cytuno i rentu’r llawr gwaelod ar brydles ar gyfer ei fusnes, ‘Cwrw’.

Craft tap room” fydd ‘Cwrw’, meddai, ac mae’n awgrymu y bydd yn wahanol iawn i’r ‘Parot’ a oedd yna gynt.

“Roedd y Parot yn canolbwyntio ar gerddoriaeth byw,” meddai Michael Hilton sydd bellach yn byw ym Mronwydd wrth golwg360.

“Dw i’n gwybod hynny. Ac roedd sawl ymgais i gadw hynna’n gynaliadwy. Ond yn amlwg roedd e methu a bod.

“Dw i eisiau masnachu’n fwy yn ystod y dydd. A dw i eisiau cadw’r ffocws ar craft ale. Hoffwn fod cerddoriaeth byw yn cael ei gynnal yno pan mae hynny’n bosib.

“Ond fydda i ddim yn dibynnu ar gerddoriaeth i gadw’r holl beth yn gynaliadwy.”

Beth fydd Cwrw?

Mae Michael Hilton yn dweud bydd ‘Cwrw’ yn “fwyty classy” ac yn siop yn ystod y dydd, ac mi fydd yn gwerthu cynnyrch lleol a chwrw. Gyda’r hwyr mi fydd yn “ofod adloniant”.

Mae’n gobeithio bydd y busnes yn cynnig “popeth allwch ddychmygu mewn un lle”, a hoffai greu “atmosffer cymunedol”.

“Dyw hyn ddim am yr arian,” meddai. “Dw i eisiau i’r gymuned fod yn rhan o’r fenter, a dw i eisiau iddo fod yn agored a chynaliadwy. Dw i ddim yma i wneud miliwn o bunnau!”

Mi fydd yr adeilad yn newid rhywfaint ar y tu fewn, ac mae Michael Hilton yn gobeithio creu ardal “cwtch” y gall pobol ei rentu.