Prif Weithredwr newydd cwmni Golwg yw Sian Powell o Gaerdydd ac o Ynys Môn yn wreiddiol.
Fe fydd hi’n cymryd yr awenau ym mis Awst, gan ddatblygu casgliad o gyhoeddiadau a chynllun newydd arloesol i greu gwefannau bro.
Mae wedi darlithio mewn newyddiaduraeth ac wedi cynnal ei busnes ei hun yn ymgynghori ym maes cyfathrebu.
“Mae’r cyfle hwn i arwain Golwg yn fraint,” meddai. “Dw i’n edrych ymlaen at ymuno â’r tîm talentog a chreadigol wrth i ni weithio i gryfhau newyddiaduraeth Cymru.
“A finnau wedi ymchwilio i’r diffyg democrataidd a’i effaith ar y gymdeithas yng Nghymru mae’r cyfle hwn i arwain busnes sydd yn gweithio i lenwi’r bwlch yn un cyffrous iawn.
“Fy mlaenoriaeth ydi sicrhau amrywiaeth lleisiau a newyddiaduraeth o safon uchel ac i barhau gyda gwaith llwyddiannus Dylan Iorwerth o ddatblygu mentrau newydd fel Bro 360, y cynllun gwefannau bro.”
Y gwaith
Fe fydd Sian Powell yn cymryd cyfrifoldeb am gasgliad o wasanaethau:
- Golwg, yr unig gyhoeddiad newyddion a materion cyfoes wythnosol Cymraeg
- golwg360 – yr unig wasanaeth newyddion Cymreig a byd-eang ar-lein yn Gymraeg
- Bro360 – cynllun arloesol i ddatblygu rhwydwaith o wefannau bro Cymraeg
- lingo newydd – cylchgrawn bob dau fis mewn Cymraeg hawdd, yn benna’ i ddysgwyr
- WCW a’i ffrindiau – comic bob mis i blant bach
- Gwasanaethau Golwg – adain fasnachol y cwmni, sy’n cynnig gwasanathau sgrifennu, dylunio a chyhoeddi
- Appiau ar gyfer Golwg a lingo newydd
Fe fydd Sian Powell yn cymryd yr awenau oddi wrth Dylan Iorwerth, un o sylfaenwyr cwmni Golwg yn 1988.