Mae bragdy Brains yng Nghaerdydd wedi croesawu Dug Caergrawnt ar drothwy gêm fawr tîm rygbi Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Bydd Cymru’n ennill y Gamp Lawn drwy guro Iwerddon ar ddiwrnod ola’r gystadleuaeth heddiw.
“Wna i ddim llyncu’r cwbwl lot!” meddai ar ôl arllwys ei beint ei hun yn ystod ymweliad â safle bragdy newydd Dragon Brewery. Mae disgwyl i’r safle gynhyrchu dros 20 miliwn peint y flwyddyn.
Fe ddysgodd e am y broses fragu ac fe gafodd e gyfle i lenwi casgen o gwrw Brains SA, yn ogystal â chyfarfod â phrentisiaid sy’n helpu pobol i ddychwelyd i’r gwaith fel cogyddion yn nhafarndai’r cwmni.
Ac fe ddadorchuddiodd e blac arbennig i nodi’r ymweliad.
“Mae’n flin gen i eich bod chi i gyd i mewn ar ddydd Sadwrn ar ddiwrnod rygbi,” meddai wrth y staff.
“Gobeithio y gwnewch chi gyrraedd y teledu neu’r stadiwm yn nes ymlaen.”
‘Anrhydedd’
“Roedd yn fraint gennym groesawu’r Dug i agor bradgy Dragon Brewery yn swyddogol,” meddai John Rhys, cadeirydd Brains, sy’n un o wyrion y sylfaenydd Samuel Arthur Brain.
“Mae hyn yn nodi cam pwysig yn ein cynlluniau cyffrous i sefydlu ein cwmni teuluol Cymreig balch fel y bydd yn ffynnu yn y tymor hir.
“Edrychwn ymlaen at lansio cyrfau newydd ac adeiladu ar lwyddiant ein hystad lwyddiannus o dafarnau yn y blynyddoedd i ddod.”