Mae Josie Russell, yr artist o Ddyffryn Nantlle, yn dweud bod creu jig-sôs o’i darluniau yn ei galluogi i fynd ä’i gwaith celf at bobol newydd.
Dau jig-sô sydd ganddi ar hyn o bryd – un yn seiliedig ar fap o Gymru a gafodd ei chreu ganddi mewn tecstiliau yn 2016, a’r un diweddaraf yn ddarlun o dref Aberystwyth.
Mae’r jig-sô, meddai wrth golwg360, yn galluogi cwsmeriaid i brynu ei gwaith heb orfod talu’n ddrud am ei gweithiau celf ar ganfas.
“Mae’n ffordd i rywun brynu darlun sydd heb fod yn un gwreiddiol,” meddai. “Dyma ran o fy ngwaith sydd heb fod yn ddrud.
“Dw i’n gwerthu cwpanau a chardiau a thywelion te hefyd. Mae rhai pobol yn eu fframio nhw!”
Jig-sô Aberystwyth
Mae’n dweud bod Cymru yn ysbrydoli ei gwaith yn gyson, a bod y darlun o Aberystwyth yn ddigon lliwgar fel ei fod yn gwneud y broses o gwblhau’r jig-sô yn haws.
“Dw i’n meddwl mai hwn ydi’r mwyaf lliwgar o’r holl ddarluniau dw i wedi’u gwneud,” meddai.
“Wnes i feddwl y baswn i’n gwneud y jig-sô ychydig yn haws i’w orffen oherwydd mae llawer o liwiau fel ei bod yn haws dod o hyd i’r darnau.
“Mae rhai pobol yn dweud, ‘Pam na wnei di’r Ddraig Goch fel jig-sô?’ ond oherwydd ei bod yn goch, gwyn a gwyrdd, mi fyddai’n anodd iawn.”
Apêl eang ei gwaith
A hithau wedi dechrau gwerthu ei gweithiau celf mewn ffeiriau yn y gogledd, mae hi wedi symud ymhell oddi wrth ei gwreiddiau yn y byd celf, lle’r oedd hi’n arfer creu darluniau blodeuog.
“Wnes i ddarganfod fod pobol yn hoffi mynyddoedd felly wnes i ddechrau creu darluniau o’r mynyddoedd allan o ffabrig, a dyna sut ddechreuodd y cyfan, mewn gwirionedd.
“Wnes i ddechrau gwerthu fy ngwaith ac mae’n dod yn eitha’ pobologaidd rŵan, felly wnes i ddechrau printio ar jig-sos a chwpanau, ac yn y blaen, fel bod pobol yn gallu fforddio’r gweithiau rhatach hefyd.”
Mae hi bellach yn cael comisiynau yn y de ac ar draws y byd.
“Dw i hefyd yn creu darluniau o lefydd fel Amsterdam a’r Alpau,” meddai.
“Mae pobol sy’n byw yn Awstralia, ac a oedd yn arfer byw yng Nghymru, yn prynu cardiau neu brintiau a dw i’n eu postio nhw allan oherwydd maen nhw eisiau cael eu hatgoffa o Gymru.
“Roedd o’n bwnc ro’n i’n ei fwynhau yn yr ysgol a rŵan dw i’n mwynhau gyrfa. Do’n i ddim isio gweithio mewn siop na dim, felly wnes i ddechrau gwerthu fy ngwaith fy hun, ac mae o wedi bod yn llwyddiant.”