Mae tîm rygbi Cymru’n gobeithio y bydd perfformiad preifat o’r ddrama lwyfan Grav yn ystafell newid yr ymwelwyr Stadiwm Principality yn eu hysbrydoli i guro Lloegr ddydd Sadwrn.

Mae’r ddrama’n seiliedig ar fywyd a gyrfa’r cyn-chwaraewr rygbi a darlledwr a fu farw yn 2007, gyda’r actor Gareth Bale yn portreadu’r cawr o Fynydd-y-garreg.

“Fe gawson ni brofiad gwych, ac fe ddylen ni fod wedi chwarae’n syth ar ei ôl o, a bod yn onest,” meddai Robin McBryde, is-hyfforddwr Cymru a gamodd i esgidiau Ray Gravell yn Geidwad y Cledd, Gorsedd y Beirdd.

“Fe wnaeth ein rhoi mewn lle da yn feddyliol. Os allwn ni ail-adrodd perfformiad Gareth Bale mewn unrhyw ffordd ddydd Sadwrn, fydd dim ots a yw’r to ar agor neu ar gau. Un canlyniad yn unig fydd.”

‘Drama dda, bwerus’

“Roedd y ddrama’n dda iawn, roedd hi’n bwerus,” meddai George North, asgellwr Cymru.

“Fedrwn i glywed ‘Muckers’ (Robin McBryde) yn ysu ar y diwedd. Roedd o a Ken Owens yn brwydro dros grys y bachwr ar un adeg!

“Mae balchder yn rhywbeth dw i’n dal i’w deimlo, a dw i’n gwybod fod yr hogia i gyd yn ei deimlo fo wrth wisgo’r crys.

“Pan fo’r anthem yn cael ei chanu, y bloeddio ar ben a’r chwiban yn chwythu, mae pawb isio bod yno. Dw i’n meddwl bo chi’n edrych yn ôl ar fod yn hogyn bach yn chwarae yn y parc, ac mae’r atgofion hynny’n mynd trwy eich meddwl wrth i chi baratoi i fynd.”

Gêm fawr

Mae Cymru a Lloegr yn ddiguro hyd yn hyn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, ac mae rhai yn credu y gallai’r canlyniad ddydd Sadwrn benderfynu pwy fydd yn ennill y gystadleuaeth yn y pen draw.

Mae Cymru’n ddi-guro mewn 11 o gemau, gyda buddugoliaeth dros Loegr yn golygu y byddan nhw’n sicrhau eu record orau erioed, gan drechu honno a gafodd ei gosod rhwng 1907 a 1910.

“Mae’n gêm fawr,” meddai Robin McBryde. “Mae Lloegr ar frig y don ar ôl dau berfformiad da iawn. Rhaid i ni fynd ben-ben a bwrw iddi hefo nhw.”