Mae Goldie Lookin’ Chain, y band rap o Gasnewydd, wedi cyhoeddi cân deyrnged i Paul Flynn.

Bu farw’r Aelod Seneddol Llafur dros Orllewin Casnewydd yn 84 oed nos Sul (Chwefror 17).

Mae’r gân ‘Paul’ yn sôn am gariad y gwleidydd at ei filltir sgwâr, ei farf adnabyddus a rhai o’i ddaliadau gwleidyddol, gan gynnwys ymgyrchu tros y defnydd o ganabis.

Mae’r gân wedi cael ei gwylio mwy na 15,000 o weithiau ar dudalen Facebook y band, ac wedi cael ei hoffi dros 200 o weithiau a’i rhannu dros 300 o weithiau.

Ar y dudalen, mae’r band yn dweud bod “y gân hon yn mynd allan i Paul”.

https://www.facebook.com/49504354687/videos/286997001993555/