Mae peiriannau arian y Bae wedi achosi tipyn o drafferth i eisteddfodwyr eleni.

Bellach, does dim modd tynnu arian o beiriannau Sainsbury’s na Tesco – dwy archfarchnad sy’n gymharol agos i faes y brifwyl.

Ac felly rhaid cerdded i beiriant arian sydd ar bwys y Glee Club yng Nghei’r Fôr-forwyn – Ar fore ddydd Mawrth (Awst 7) roedd yna giw ar gyfer y peiriant hwnnw.

Mae golwg360 yn deall bod problemau wedi bod â’r peiriannau nos Lun (Awst 6) hefyd.

Ffordd arall o gael gafael ar arian parod yw gwneud ‘taliad yn ôl’ (cashback) mewn un o fusnesau’r Bae.