Mae’n ymddangos fod y bardd sydd wedi’i enwi yn Archdderwydd nesaf Cymru, am weld nifer o newidiadau i seremonïau Gorsedd y Beirdd, unwaith y bydd yn camu i’r swydd fis Gorffennaf nesaf.

Mae golwg360 yn deall i fwy nag un cyfeiriad fod Myrddin ap Dafydd eisoes wedi bod yn holi rhai o’i gyd-aelodau ar Fwrdd yr Orsedd, ynglyn â sut y mae seremonïau yn cael eu trefnu a’u llwyfannu, a sut y mae’r rheiny sy’n cymryd rhan yn cael eu dewis.

Mae hefyd am weld mwy o aelodau’r Orsedd yn cael eu defnyddio – pobol nad ydyn nhw o reidrwydd yn ‘eisteddfodwyr’ ac yn berfformwyr llwyfan – er mwyn ehangu ei hapêl.

Mae hyn i gyd yn ddibynnol ar gael ei syniadau trwy beirianwaith Bwrdd yr Orsedd, sy’n gofyn am gyflwyno ‘Rhybudd o Gynnig’ cyn bod cynnig swyddogol yn cael ei wneud y flwyddyn ganlynol.

Mae disgwyl i Myrddin ap Dafydd gyrraedd Bae Caerdydd fory (dydd Mercher, Awst 8) yn barod at gael ei gyflwyno i gynulleidfa’r Pafiliwn yn ystod seremoni’r Cadeirio bnawn Gwener.