Fe fydd mwy o doiledau yn cael eu cario i Fae Caerdydd heddiw, er mwyn ceisio lliniaru ychydig ar giwiau cyfleusterau’r merched yng Nghanolfan y Mileniwm.

Mae rhesi hir, hir, wedi bod yn aros i ddefnyddio toiledau’r menywod ers dydd Sadwrn, nes bod y trefnwyr wedi penderfynu dod â phorta-lws i’r Basn.

Mae miloedd o bobol wedi ymweld â’r brifwyl arbrofol, ddi-Faes yn hen ardal y dociau ers iddi agor nos Wener.