Bydd criw o ugain o feicwyr o Ddyffryn Conwy yn beicio o Lanrwst i Gaerdydd heddiw (Awst 7), er mwyn codi arian tuag at Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019 ac elusennau eraill. Mae’r daith wedi’i threfnu gan bwyllgor apêl Pentrefoelas.
Daw’r beicwyr o nifer o rannau o’r sir Conwy, ac maen nhw’n amrywio mewn oedran a phrofiad. Bydd y daith yn gorffen ar Faes Prifwyl Caerdydd gyda’r beicwyr yn dathlu ar y Maes brynhawn dydd Iau – yr un pryd ag y mae disgwyl i enillydd y Tour de France, Geraint Thomas, gael ei groesawu gartref.
“Ryden ni wedi bod yn ffodus iawn i dderbyn cymorth tuag at y daith gan nifer o fusnesau lleol,” meddai Gethin Clwyd, un o’r trefnwyr.
“Mae Cwmni Brodwaith o Bentrefoelas yn darparu crysau ar ein cyfer, siopau Spar Llanrwst a Betws-y-coed yn cyflenwi bwyd a diod; a chwmni Burtech o Landdoged ger Llanrwst yn cyflenwi trelar i gludo’r beiciau adref o Gaerdydd,”