Mae ennill y goron yn Eisteddfod Genedlaethol 2018 yn “fraint aruthrol” yn ôl Catrin Dafydd.

Mae ei chasgliad buddugol yn mynd i’r afael â hunaniaeth Grangetown – rhan o’r brifddinas lle mae llawer o Gymry Cymraeg bellach wedi ymgartrefu.

Mae Catrin Dafydd yn nodi bod yr “ardal yn gynhenid” i’w darn buddugol, a bod yna “bethau cynhyrfus, difyr a chymhleth” yn digwydd yno ar hyn o bryd.

Yn ogystal, mae’n ymfalchïo yn y ffaith bod llu o ddiwylliannau gwahanol yn cyd-fyw yno ynghyd â diwylliant y Cymry Cymraeg.

“Mae’n rhaid i ni gofio – dyw’r Gymraeg ddim yn newydd yma,” meddai wrth golwg360. “Mae wedi bod yn rhan ohonom ni. A hefyd mae’n gallu meddiannu ardaloedd eto.

“Mae gen ti gymuned amlddiwylliannol sy’n cyd-fyw mor dda yn Grangetown, ac mae’n destun dathlu i ni yng Nghymru dw i’n meddwl.”

‘Jentrifficeshyn’

Ond, mae Catrin Dafydd yn cydnabod bod ‘na ochr dywyllach i bresenoldeb y Cymry Cymraeg yn Grangetown – ochr sy’n cael ei gyfleu yn ei darn.

Yn y gerdd ‘Jentrifficeshyn’ mae’n codi cwestiynau am Gymry Cymraeg yn symud i ardaloedd yn y brifddinas gan eu ‘coloneiddio’.

“Mae gen ti ochrau glannau’r afon, lle’r wyt ti’n clywed Cymraeg yno,” meddai.

“Ond wrth gwrs mae hynny’n disodli gwreiddiau pobol eraill sydd wedi gwneud Grangetown yn gartref iddyn nhw dros y canrifoedd hefyd. Dyw’r themâu yma ddim yn hawdd.”