Arfbais y Gorfforaeth
Mae un o gyrff pwysica’ Llundain wedi cyhoeddi ffilm yn y Gymraeg sy’n rhoi cipolwg ar ddatblygiadau adeiladu sydd ar y gweill yn y ddinas.
Dyma’r ffilm gyntaf yn yr iaith Gymraeg y mae Corfforaeth Dinas Llundain wedi’i chyhoeddi ac yn ôl Gwyn Richards, Pennaeth Cynllunio Trefol y ddinas, mae’n gobeithio y bydd mwy yn y dyfodol.
Mae’r fideo, ‘Dinas sy’n Ffynnu’, yn dangos y datblygiadau diweddaraf sydd wedi’u hychwanegu i brif ddinas gwledydd Prydain.
Yn y fideo, mae Gwyn Richards yn dweud ei bod yn “ddinas gyffrous, sy’n “edrych yn ffyddiog i’r dyfodol.”
Mae’r fideo hefyd ar gael yn Saesneg, Arabeg, Sbaeneg, Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Mandarin a Pherseg.