Fe fydd cartrefi yng Nghymru a Lloegr yn wynebu cynnydd o 2% yn eu biliau dŵr wrth i gwmnïau ddadlau bod yn rhaid codi prisiau er mwyn talu am “fuddsoddi yn eu gwasanaethau”.
Yn ôl Water UK, fe fydd y cynnydd sy’n rhan o gynlluniau gafodd eu cadarnhau gan y rheolydd Ofwat yn 2014, yn cyfrannu £44 biliwn at welliannau i wasanaethau ledled gwledydd Prydain.
Ar gyfartaledd, fe fydd cartrefi yng Nghymru a Lloegr yn talu £395 am eu dŵr a’u gwasanaeth carthffosiaeth dros y flwyddyn nesa’, sy’n gynnydd o £6.
Cartrefi incwm isel
Mae Water UK yn dweud fod bron pob cwmni yn cynnig gostyngiadau yn eu ffioedd i gartrefi incwm isel gall fod mor uchel â 90%, ond yn ôl y Cyngor Cwsmeriaid ar Ddŵr dim ond hanner o’r 400,000 o gartrefi’r categori yma fydd yn elwa o’r cynllun.
“Bydd y rhan fwyaf o gwsmeriaid yn gweld eu biliau yn cynyddu o fis Ebrill ymlaen ac fe fydd hyn yn taro’r cartrefi sy’n barod yn ei chael hi’n anodd,” meddai Prif Weithredwr y Cyngor Cwsmeriaid ar Ddŵr, Tony Smith.