Mae gan “gyfrannau mawr” o ardaloedd gwledig fel Powys a Cheredigion lefel uwch o seilwaith cymunedol nag ardaloedd trefol, yn ôl dadansoddiad newydd.
Am y tro cyntaf, mae ymchwil newydd yn edrych ar asedau cymunedol – fel meysydd chwarae, llyfrgelloedd neu neuaddau pentref – i raddio amddifadedd dros y wlad.
Yn ôl yr ymchwilwyr, mae’r dadansoddiad yn awgrymu bod cymunedau gwledig yn well wrth fynd ati i gynnal asedau cymunedol a chryfhau cydnerthedd cymunedol “er nad ydyn nhw’n arbennig o gefnog”.
Ers blynyddoedd, mae Cymru wedi dibynnu ar Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru i asesu a graddio amddifadedd ledled y wlad, ac i arwain y broses o ddosbarthu adnoddau, gan gynnwys mesurau gwrthdlodi.
Ond mae ymchwil newydd gan yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau yn defnyddio data sy’n ystyried pwysigrwydd asedau cymunedol.
Ardaloedd Llai Cydnerth
Mae Indecs Asedau Cymunedol Cymru yn cynnig map o seilwaith cymunedol am y tro cyntaf, gan gynnwys neuaddau pentref, elusennau lleol a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Yn sgil hynny, mae Indecs Cydnerthedd Cymunedol Cymru wedi cyfuno data presennol Llywodraeth Cymru gyda’r Indecs Asedau Cymunedol i ddod o hyd i’r Ardaloedd Llai Cydnerth (LRA) yng Nghymru.
Mae’r ugain Ardal Llai Cydnerth uchaf yn bennaf yn ne Cymru ac ar ymylon trefi neu ddinasoedd, meddai’r ymchwil – gan gynnwys sawl un ar gyrion Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd.
Cymoedd y de sydd â’r gyfran uchaf o Ardaloedd Llai Cydnerth, ac mae’r ardaloedd yn y gogledd i’w gweld o amgylch arfordir y gogledd, aber Afon Dyfrdwy, Blaenau Ffestiniog, Caergybi a Wrecsam.
Mae Ardaloedd Llai Cydnerth hefyd yn Aberdaugleddau, Doc Penfro, Aberteifi a’r Drenewydd.
Yn ôl yr ymchwil, mae 88% o’r holl bobol sy’n byw mewn Ardal Lai Cydnerth yn byw mewn dinasoedd a threfi; 68% yw’r cyfartaledd cenedlaethol.
Mae hefyd yn dangos bod llawer o’r ardaloedd llai cyfnerth yn dangos cyfraddau uwch o ddiweithdra ac afiechyd na’r cyfartaledd cenedlaethol.
‘Cynnig safbwynt newydd’
Wrth sôn am arwyddocâd y data, dywed Chris Johnes, Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth, eu bod nhw’n gallu cynnig safbwynt newydd ar amddifadedd.
“Drwy archwilio cydnerthedd cymunedau, rydym wedi datblygu ymchwil sy’n mynegi’n well y mathau o faterion gwahanol sy’n wynebu ein cymunedau amrywiol – ac felly, yn hynny o beth, yr ymyriadau y byddent yn elwa fwyaf ohonynt,” meddai.
“Fe’n syfrdanwyd gan faint o’r cymunedau â seilwaith gwan sydd hefyd wedi sgorio’n uchel ar gyfer amddifadedd ar Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, gan ddangos sut mae perifferoldeb yn ychwanegu haen arall o straen ar ardaloedd sydd eisoes mewn trafferthion.”
Mae’r ymchwil hefyd yn dangos bod llawer o’r cymunedau cymharol ynysig hyn yn gweithio’n galed i gadw asedau cymunedol hanfodol, ond yn cael llawer llai o arian i wneud hynny na rhannau eraill o Gymru.
“Dylai’r canfyddiadau sy’n ymwneud â chydnerthedd cymunedau ar ymylon canolfannau trefol Cymru dynnu sylw awdurdodau lleol at bwysigrwydd sicrhau mynediad digonol at asedau cymunedol, trafnidiaeth gyhoeddus, a chyfleusterau dinesig wrth gynllunio datblygiadau tai newydd,” meddai Chris Johnes wedyn.
“Gallai esgeuluso’r ystyriaethau hyn arbed costau nawr ond arwain at lefelau cydnerthedd is yn y dyfodol, gan waethygu materion iechyd ac ynysigrwydd.”
‘Deall pam ein bod ni’n llai gwydn’
Yn ystod lansiad yr adroddiad heddiw (dydd Llun, Medi 25), dywedodd Gwenlli Evans o Gwmni Bro Ffestiniog – sy’n hybu cydweithio rhwng mentrau cymunedol yn yr ardal – fod angen “edrych yn ddyfnach i ddeall yn well pam bod ein hardaloedd yn llai gwydn”.
“Mae adroddiad fel yma yn galluogi ni i edrych yn wrthrychol a deall ein cymunedau yn well,” meddai.
“Er ein bod wedi maethu gwytnwch o ran diwylliant a ymdeimlad cymunedol, yn ddadleuol un o’r cryfaf yng Nghymru, mae trafnidiaeth gyhoeddus yn gadael ein trigolion lawr, mae gwasanaethau yn cael eu tynnu o’r gymuned a thrafnidiaeth wael a drud yn rhwystr enfawr.
“Dyma pam mae hi mor bwysig bod cynlluniau Trafnidiaeth Gymunedol fel mae Y Dref Werdd yn ei ddatblygu yn holl bwysig i ansawdd bywyd y gymuned.
“Ac wrth gwrs, y gobaith ydi bod Llywodraeth Cymru yn gallu defnyddio a gwella eu polisïau ynglŷn â gwrthdlodi er mwyn ffyniant ein cymunedau a Chymru gyfan.”
Ymysg eu galwadau, mae Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru ddosbarthu adnoddau’n seiliedig ar gydnerthedd ynghyd ag amddifadedd, ac y dylai cynllunwyr trafnidiaeth flaenoriaethu Ardaloedd Llai Cydnerth.