Mae Somaliland yn dweud nad ydyn nhw’n barod i drafod ailuno â Somalia.

Daw hyn yn groes i honiadau Yoweri Museveni, arlywydd Wganda, ei fod e wedi cynnig arwain y trafodaethau rhwng y ddwy lywodraeth.

Cyhoeddodd Somaliland eu hymadawiad â Somalia yn 1991, ond dydyn nhw heb gael eu cydnabod yn eang fel gwlad annibynnol ers hynny.

Yn ôl Llywodraeth Somaliland, fydd ailuno ddim yn cael ei drafod, ond yn hytrach sut y gall y ddwy wlad symud yn eu blaenau “ar wahân”.

Er bod Somalia’n wynebu rhyfel cartref ers degawdau, mae Somaliland yn wlad heddychlon ar y cyfan er bod rhywfaint o frwydro yno fis Chwefror.

‘Dileu gwleidyddiaeth sy’n seiliedig ar hunaniaeth’

Yn ôl Yoweri Museveni, dylai Somalia a Somaliland “ddileu gwleidyddiaeth sy’n seiliedig ar hunaniaeth” os ydyn nhw am fod yn llewyrchus.

Dydy llywodraethau Wganda na Somalia ddim wedi gwneud sylw.

Ond mae Somalia yn dal i ystyried Somaliland yn diriogaeth sy’n perthyn iddyn nhw.