Bydd taliadau cymorth costau byw o £300 yn cael eu gwneud rhwng Hydref 31 a Thachwedd 19.
Dyma fydd yr ail daliad allan o dri eleni, gyda hyd at gyfanswm o £900 wedi’i gynnig i helpu aelwydydd gyda chostau byw cynyddol.
Bydd y taliad gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cael ei wneud i’r rhai sy’n gymwys ac sydd ar fudd-daliadau megis Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn neu gredydau treth yn y flwyddyn ariannol 2023/24.
Bydd pobol sy’n gymwys ac sy’n hawlio credydau treth yn unig, ac sydd ddim yn gymwys ar gyfer taliad gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, yn derbyn £300 gan yr Adran Gyllid a Thollau.
Bydd y taliad yn cael ei anfon yn awtomatig i’r rheiny sy’n gymwys, felly does dim rhaid gwneud unrhyw beth i ymgeisio amdano.
‘Angen lleihau chwyddiant’
Dywed Mel Stride, Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau San Steffan, mai lleihau chwyddiant fyddai’r ffordd orau o roi hwb ariannol i bobol, ond fod rhaid helpu’r rhai mwyaf bregus.
“Y ffordd orau y gallwn ni roi hwb i falans banc pobl ydi drwy leihau chwyddiant, ond rydym hefyd yn sicrhau fod yr aelwydydd mwyaf bregus yn cael eu gwarchod rhag prisiau uchel drwy dderbyn taliad argyfwng costau byw ychwanegol,” meddai.
Cafodd hyn ei ategu gan y Canghellor Jeremy Hunt.
“Haneru chwyddiant a chael prisiau o dan reolaeth ydi’r ffordd orau o gefnogi aelwydydd sy’n ei chael hi’n anodd talu biliau,” meddai.
“Ond mae hefyd yn iawn ein bod yn helpu’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ac mae’r taliad costau byw diweddaraf hwn yn rhan o becyn cymorth gwerth £3,300 fesul cartref ar gyfartaledd dros y flwyddyn hon ac yr olaf i helpu’r rhai sy’n cael trafferthion fwyaf.”
Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn talu dros saith miliwn o gartrefi, tra bydd yr Adran Gyllid a Thollau yn talu tua 830,000 ychwanegol.