Mae’r terfyn cyflymder newydd o 20m.y.a. yng Nghymru’n hollti barn y genedl, yn ôl pôl piniwn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Aeth Andrew RT Davies ati i ofyn i’w ddilynwyr am eu barn am “derfynau cyflymder blanced o 20m.y.a.”.

Dydy’r terfyn ddim yn un “blanced”, wrth gwrs, gyda dim ond rhai ffyrdd yn cael eu cyfyngu i 20m.y.a. lle mae cyfran uchel o dai, busnesau a phobol.

“Mae’n ymddangos bod gan bawb farn am derfynau cyflymder 20m.y.a. blanced Llafur,” meddai Andrew RT Davies.

“Felly gadewch i ni wneud pôl.

“Ydych CHI’N cefnogi 20m.y.a. blanced?”

Fe gynigiodd e’r opsiynau “Ydw” a “Nac ydw, mae’n wallgof” fel atebion posib.

Dywedodd 57.2% o’r rhai wnaeth ateb eu bod nhw’n cefnogi’r terfyn cyflymder newydd, gyda dim ond 42.8% yn gwrthwynebu.


Beth yw eich barn chi?

Pleidleisiwch, naill ai drwy fynd i Instagram neu drwy glicio ar ein pôl X (Twitter) isod: