O fis Mehefin i fis Rhagfyr y llynedd, fe dreialodd 61 o gwmnïau a thua 3,000 o weithwyr ar draws y Deyrnas Unedig yr ‘wythnos pedwar diwrnod’, sef symud i oriau hirach heb golli cyflog. Trefnwyd hyn gan Autonomy, 4 Day Week Campaign a 4 Day Week Global, ynghyd ag ymchwilwyr o Goleg Boston a Phrifysgol Caergrawnt.
Hwn yw’r arbrawf mwyaf o gwmpas y byd hyd yma, oedd yn cynnwys sefydliadau o gwmnïau ymgynghori a roboteg, i siop sglodion a Chymdeithas Dai De Cymru.
Mae canlyniadau’r peilot, sydd wedi cael eu cyhoeddi fel adroddiad yr wythnos hon, yn dangos nifer o effaithiau trawsnewidiol ar weithwyr – llai o straen, problemau cysgu a llosgi allan, gwelliannau i’w hiechyd corfforol a meddyliol, heb sôn am fwy o foddhad mewn bywyd.
Fodd bynnag, mae’r arbrawf wedi helpu i gadarnhau yr achos busnes hefyd. Ar ôl gweld gwelliant i’w cynhyrchiant a’u refeniw, yn ogystal â gostyngiad mewn ymddiswyddiadau, mae 56 o’r 61 sefydliad sy’n cymryd rhan yn y cynllun wedi penderfynu bellach y byddan nhw’n cadw’r wythnos pedwar diwrnod ar ddiwedd y cyfnod peilot. O ystyried y gwnaeth mwy na 90% o weithwyr gefnogi parhau ag oriau hirach hefyd, mae rhaid derbyn yr arbrawf fel llwyddiant mawr.
Digon o dystiolaeth: amser gweithredu
A dweud y gwir, dyw’r canlyniadau hyn ddim yn dod fel syndod o gwbl. Dydyn nhw ddim ond y diweddaraf ar restr arbrofion llwyddianus yr wythnos pedwar diwrnod sydd wedi tyfu ar draws y byd, o Wlad yr Iâ i Siapan, Seland Newydd, yr Unol Daleithiau, Iwerddon a thu hwnt. Yr un yw’r hanes bob tro – lles a chynhyrchiant yn gwella, a gweithwyr a rheolwyr yn hapus. Hyd yn oed yn y Deyrnas Unedig, mae mwy na 120 o gwmnïau sydd eisoes wedi cael eu hachredu fel cyflogwyr wythnos pedwar diwrnod ‘swyddogol’.
Mae’n amlwg bod momentwm yn adeiladu, wrth i fwy o gwmniau – a’r llywodraethau, bellach – ddechrau sylweddoli taw oriau hirach yw’r dyfodol. O gwmpas Ewrop, yn Sbaen a Phortiwgal, yn ogystal â’r Alban yn nes at adre’, mae gwledydd yn edrych i gefnogi’r tuedd, naill ai trwy drefnu ac ariannu peilot yn y sector preifat neu gynllunio arbrofion yn eu sector cyhoeddus eu hunain.
Ond beth am Gymru?
Yr un hen stori, rydyn ni dal yn aros am weithredu. ‘Nôl ar ddechrau 2022, pan gyhoeddon ni adroddiad gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, oedd wedi argymell wrth Lywodraeth Cymru y dylen nhw arbrofi â’r wythnos pedwar diwrnod yn y sector cyhoeddus, roedd yr ymateb swyddogol yn syml: ‘Mae angen aros i weld canlyniadau cynlluniau byd-eang.’
Wel ers hynny, fel mae’r newyddion yr wythnos hon yn ei ddangos, mae’r canlyniadau wedi cyrraedd. Mae yna gwmnïau yng Nghymru sy’ wedi dechrau arbrofi gydag oriau hirach, ac Aelodau o’r Senedd ar draws y pleidiau sydd yn barod i gefnogi’r polisi yn y Siambr (fel mae adroddiad diweddar Pwyllgor Deisebau wedi’i ddangos). Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i’r agenda ‘Gwaith Teg’, ac yn dweud eu bod nhw eisiau gweld Cymru’n arwain ar lwyfan y byd.
Felly, does yna ddim esgus. Mae’n amser cefnogi wythnos pedwar diwrnod Cymru. Bydd arbrawf yn y sector cyhoeddus yn ‘ddatganiad’ o roi ein gwlad ni fel forerunner rhyngwladol, ond mae dal opsiynau gwahanol neu symlach, fel canolbwyntio ar gwpwl o weithleoedd yn y sector cyhoeddus yn unig, neu drefnu cynllun preifat fel sydd yn yr Alban – get the ball rolling!
Weithiau, mae’n teimlo fel bod Llywodraeth Cymru’n hoffi siarad yn fwy na gweithredu. Yn ôl canlyniadau anhygoel yr arbrawf wythnos pedwar diwrnod diweddar, mae yna gyfle i newid hynny.