Bydd siopau Debenhams yng Nghaerdydd ac Abertawe’n cau mis yma, wrth i’r cwmni gyhoeddi y bydd y siopau sy’n dal ar agor yn cau am y tro olaf ar Fai 15.
Aeth y cwmni i’r wal y llynedd, ac maen nhw’n annog siopwyr i fanteisio ar eu bargeinion.
Mae’r grŵp eisoes wedi cadarnhau bod 52 o’r 101 o siopau sy’n dal ar agor yn cau ddydd Sul (Mai 8).
Bydd y 49 siop arall yn cau am y tro olaf ar Fai 12 ac 15, gyda’r siopau yng Nghaerdydd ac Abertawe’n cau ar Fai 15.
Bydd Debenhams yn cynnig 80% oddi ar bris eu dillad a’u nwyddau cartref, a 70% oddi ar golur a phersawrau tan hynny.
“Rydyn ni nawr yn cyrraedd dyddiau olaf ein sêl cau, a dyma’r cyfle olaf un i gwsmeriaid fanteisio ar rai o’n bargeinion anhygoel,” meddai llefarydd ar ran Debenhams.
“Gydag 80% oddi ar brisiau ar hyd y siopau sy’n dal ar agor, rydyn ni’n annog cwsmeriaid i siopa nawr tra bod stoc ar ôl.
“Dros y deg diwrnod nesaf, bydd Debenhams yn cau eu drysau ar y stryd fawr am y tro olaf yn ein hanes o 242 mlynedd.
“Rydyn ni’n diolch yn fawr i’n holl gydweithwyr a chwsmeriaid sydd wedi ymuno â ni ar y daith hon.
“Gobeithiwn eich gweld un tro olaf yn ein siopau cyn i ni ddweud hwyl fawr wrth stryd fawr y Deyrnas Unedig.”