Mae dyn 38 oed wedi cael ei arestio ar ôl i fan transit ddu oedd wedi cael ei dwyn gael ei dreifio i mewn i siop gemwaith Pandora yng Nghaerfyrddin ddoe (dydd Mawrth, Ebrill 4).

Dyw hi ddim yn glir a gafodd unrhyw beth ei ddwyn, ond mae difrod mawr wedi’i achosi i flaen y siop.

Mae drysau’r brif fynedfa wedi’u plygu, tra bod piler bach i’r dde o’r siop hefyd wedi’i daro gan y fan.

Cafodd y fan ei dilyn ar hyd yr A48 a’r M4 cyn i heddlu arfog a swyddogion Heddlu De Cymru lwyddo i ddod â’r cerbyd i stop yn ardal Treforys ar gyrion Abertawe.

Mae swyddogion bellach yn chwilio am ail berson maen nhw’n amau o fod â rhan yn y digwyddiad.

“Cawsom ein galw i mewn i ladrad yn Pandora ar Stryd Lammas, Caerfyrddin, tua 5.50yb,” meddai llefarydd mewn datganiad.

“Roedd fan Transit ddu wedi cael ei gweld yn dreifio i mewn i’r ffenestr i gael mynediad i’r siop.

“Dilynwyd y cerbyd i’r dwyrain ar hyd yr A48 a’r M4, cyn gadael y draffordd a chael ei stopio yn ardal Treforys gyda chymorth yr unedau arfog a Heddlu De Cymru.

“Cafodd dyn 38 oed ei arestio ac mae’n dal i fod yn nalfa’r heddlu. Mae ymholiadau’n parhau er mwyn dod o hyd i ail berson sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad.

“Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â ni gan ddyfynnu DP-20210504-033.

“Gellir gwneud hyn ar-lein dyfed-powys.police.uk/contact, drwy e-bostio 101@dyfed-powys.pnn.police.uk, neu drwy ffonio 101.”