Mae gwefan gymdeithasol Facebook wedi cyhoeddi ei bod am brynu gwasanaeth negeseuon testun WhatsApp am £9.58 biliwn.
Mae WhatsApp yn cael ei ystyried yn fodd gwahanol o anfon negeseuon testun ac mae 450 miliwn o bobl yn ei ddefnyddio’n fisol drwy’r byd.
Fel rhan o’r cytundeb bydd £2.4 biliwn yn cael ei dalu mewn arian parod a gwerth £7.18 biliwn o gyfrannau Facebook.
Dywedodd Mark Zuckerberg, sylfaenydd a phrif weithredwr Facebook: “Mae gan WhatsApp y gallu i gysylltu un biliwn o bobl. Mae’r gwasanaethau sy’n cyrraedd y garreg filltir honno yn hynod o werthfawr.”