Mae rhwydwaith o dros gant o bwyntiau gwefru ceir trydan yn cael ei datblygu ledled Gwynedd.

Erbyn hyn, mae 4% o gerbydau’r sir yn rhai allyriadau isel, meddai Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd.

Mae gwaith yn digwydd i osod y mannau gwefru newydd mewn lleoliadau yn ardaloedd Aberdyfi, Abermaw, Bangor, Bethesda, Blaenau Ffestiniog, Caernarfon, Dolgellau, Harlech, Llanberis, Penygroes, Porthmadog, Pwllheli a Thywyn dros y misoedd nesaf.

Gan weithio gyda Thrafnidiaeth Cymru ar y cynllun, bydd y pwyntiau gwefru’n cael eu rhoi mewn safleoedd sy’n berchen i Gyngor Gwynedd.

“Mae ffigyrau a gyhoeddwyd gan y DVLA yn nodi fod bron i 3,000 o gerbydau allyriadau isel wedi eu cofrestru yng Ngwynedd, sy’n golygu fod 4% o gerbydau yn y sir yn rhai allyriadau isel,” meddai Dafydd Meurig wrth golwg360.

“Mae hyn yn dangos cynnydd o 82% o’i gymharu gyda’r flwyddyn ddiwethaf.

“Ar hyn o bryd, mae bwlch yn y ddarpariaeth breifat o ran mannau gwefru cerbydau yng Ngwynedd, ac mae hynny’n adlewyrchu’r sefyllfa mewn nifer o ardaloedd gwledig ledled y wlad gan nad yw darparu’r gwasanaeth yn hyfyw yn economaidd i’r sector breifat ar hyn o bryd.

“Mae gwaith yn cael ei wneud i ddarparu mannau gwefru ar safleoedd y Cyngor, sy’n ymgais i lenwi’r bwlch yma, gan sicrhau fod yna ddarpariaeth addas ar gyfer pobol Gwynedd a’r rheiny sy’n teithio trwy’r sir neu’n ymweld am gyfnod.”

Mae’r Cyngor wedi bod yn cydweithio â Scottish Power i ddarganfod mannau addas, a gweld lle mae’r galw uchaf.

“Y bwriad ydi cyflwyno dros 100 o beiriannau gwefru mewn meysydd parcio cyhoeddus, neu ar dir y mae’r Cyngor yn gyfrifol amdanynt.”

‘Lleihau allyriadau carbon’

I ddatgarboneiddio’r maes trafnidiaeth, mae angen pwyntiau gwefru yn y sir, meddai Dafydd Meurig.

“Mae gosod pwyntiau gwefru at ddefnydd cyhoeddus yn cyfrannu tuag at leihau allyriadau carbon yn y sir, fydd yn gyfraniad pwysig tuag at wneud Gwynedd yn net-sero,” meddai wrth golwg360.

“Does dim dwywaith fod y newid pellgyrhaeddol yma yn amlygu’r angen i symud at ddatgarboneiddio’r maes trafnidiaeth dros y blynyddoedd nesaf.

“Mae sicrhau fod darpariaeth addas o fannau gwefru fydd yn cyfarch anghenion trigolion Gwynedd a phobl sy’n ymweld â’n cymunedau yn allweddol er mwyn gwireddu hyn.

“Ond mae’n bwysig nodi fod y newid yn y maes trafnidiaeth yn un sylweddol na welwyd ei debyg ers cenedlaethau.

“Mae darparu rhwydwaith o bwyntiau gwefru cerbydau trydan ar gyfer trigolion Gwynedd yn un o’r camau gweithredu sydd wedi eu cynnwys yng Nghynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur 2022/23 – 2029/30 y Cyngor a fabwysiadwyd ym mis Mawrth y llynedd.”

Mae 25 o safleoedd wedi cael eu hadnabod, a bydd amrywiaeth o bwyntiau gwefru’n cael eu darparu, rhai’n pweru ceir yn gynt na’i gilydd.