Mae ffilm gan fyfyriwr o Brifysgol Bangor wedi cael ei enwebu ar gyfer dwy wobr yng Ngŵyl Ffresh.

Mae’r ffilm ‘Not’ wedi ei hysgrifennu gan John Bryan Evans, cyn-ddisgybl yn Ysgol Friars, Bangor.

Derbyniodd enwebiadau yng nghategori’r ffilm ffuglen orau a’r ffilm iaith Gymraeg orau.

Mae Ffresh yn ŵyl ddelwedd symudol ar gyfer myfyrwyr Cymru.

Mae ffilm 12 munud yn adrodd hanes mam ifanc sydd mewn perthynas dreisiol, a’r effaith mae’r berthynas yn ei chael ar ei phlant.

Ar hyn o bryd, mae John Bryan Evans yn astudio ar gyfer gradd MA mewn gwneud ffilmiau ym Mangor.

Bydd enwau’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn digwyddiad arbennig a fydd yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam o Chwefror 20fed – 22ain.

Ym marn y beirniaid, “caiff y stori ei hadrodd yn hyfryd, yn glir ac yn gryf gyda gwaith golygu ysbrydoledig yn ystod y trais yn y cartref a llwyddodd y cyfarwyddwr i gael rhai perfformiadau anhygoel gan blant ifanc iawn. Roedd y darn hwn o waith yn dangos aeddfedrwydd.

“Roedd y cyfarwyddo a’r golygu yn fedrus ac yn effeithiol. Llwyddodd y cyfarwyddwr i gael perfformiadau anhygoel a naturiol gan y ddau blentyn ifanc, sy’n ddawn.

“Roedd y sain yn dangos ôl meddwl ac yn effeithiol iawn. Roedd holl arddull y darn yn gwbl addas ar gyfer y pwnc.

Dywedodd John Bryan Evans: “Rwy’n falch iawn o gael fy enwebu ond cefais syndod mawr i ddechrau, yn arbennig o glywed am y ddau enwebiad.

“Mae gwneuthurwyr ffilmiau sy’n datblygu fel fi yn ffynnu ar bwysigrwydd cael eich gwaith wedi ei adolygu, ei feirniadu a’i dderbyn yn dda fel hyn.

Ac mae’n cydnabod pa mor anodd yw hi i’r gynulleidfa wylio’r ffilm.

“Mae gan ffilmiau Prydain draddodiad hir a llwyddiannus o gynhyrchu dramâu cymdeithasol cignoeth. Felly ysbrydolwyd arddull y ffilm gan yr etheg hon gan ddilyn y traddodiad hwnnw.

“Byddai’n anhygoel pe bai Not yn ennill. Cefais fy enwebu y llynedd ac roedd yn deimlad gwych. Ond rwy’n teimlo’n agosach at y ffilm hon, mae’n cliché ond mae fel pe bai’n blentyn i mi.

“Mae’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau wedi bod yn gefnogol iawn hefyd.”

“Mae cael pobl fel Jo Wright (gwneuthurwr ffilmiau dogfennol), Jamie Sherry (sgrin-awdur), Geraint Ellis (cynhyrchydd) a Mikey Murrey (gwneuthurwr ffilmiau ac enillydd gwobrau BAFTA) yn ein harwain yn ein datblygiad yn amhrisiadwy.”