Clawr Y Record Las
Golygydd Y Selar, Owain Schiavone, sy’n trafod llwyddiant marchnata digidol diweddar label Recordiau Lliwgar.
Ddydd Gwener diwethaf cyhoeddwyd stori ar Golwg360 yn gofyn a oedd cân Gymraeg gan Ifan Dafydd wedi mynd yn feiral.
Roedd y gân wedi’i chyhoeddi ar wefan Soundcloud bnawn Mercher diwethaf gan griw Recordiau Lliwgar, fel blas o’r hyn sydd i’w ddisgwyl ar eu cyhoeddiad nesaf.
Bydd Y Record Las yn cael ei ryddhau ym mis Mawrth, ac mae’n cynnwys dau drac yr un gan Ifan Dafydd, Ymarfer Corff (sef prosiect newydd Euros Childs a Pete Richardson), H. Hawkline a’r trwbadwriaid hip-hop Llwybr Llaethog.
Erbyn i’r erthygl wreiddiol ar Golwg360 gael ei chyhoeddi roedd y gân wedi croesi 13,000 o wrandawiadau mewn llai na deuddydd – ffigwr teilwng iawn i rywbeth Cymraeg, a gellid dadlau ei fod yn ‘feiral’ yn y cyd-destun hynny.
Erbyn i’r gân gyrraedd wythnos ar-lein ddoe, roedd wedi croesi 50,000 o wrandawiadau ac erbyn heddiw mae’r ffigwr dros 60,000! Mae hynny’n llwyddiant ysgubol yn fy marn i a rhaid rhoi clod i weledigaeth criw Recordiau Lliwgar.
I’w roi mewn cyd-destun, mae cân ‘Undegpedwar’ gan Y Niwl (sef cân thema Football Focus) wedi cael 302 gwrandawiad ar Soundcloud mewn blwyddyn (hyd yn hyn), tra bod ‘V Moyn T’ gan Colorama wedi cael 413 gwrandawiad mewn blwyddyn. Ddim yn gymhariaeth hollol deg efallai ond mae’r rhain yn ddau grŵp sydd â dilyniant sylweddol y tu allan i Gymru.
Gwaith caib a rhaw
Mae Ifan Dafydd yn gyn-aelod o’r grŵp Derwyddon Dr Gonzo, ond dros y flwyddyn a mwy diwethaf mae wedi dechrau creu enw i’w hun fel cynhyrchydd electroneg addawol iawn ac ennyn dilyniant eang.
Mae ‘gollwng’ cân o gasgliad fel hwn i’r cyhoedd ei chlywed yn dacteg marchnata digon cyffredin wrth gwrs – gyda’r diwylliant o ‘rannu’ pethau yn ganolog i dechnoleg newydd mae ffordd dda o ledaenu’r gair am record newydd.
Wedi dweud hynny, does bosib bod Recordiau Lliwgar yn disgwyl y fath lwyddiant.
Yr hyn sy’n fwy trawiadol ydy deall bod y gân wedi cyrraedd clustiau degau o filoedd o bobl ymhell y tu hwnt i’r gynulleidfa o Gymry Cymraeg traddodiadol – yn ôl ystadegau’r trac pnawn yma, dim ond ychydig dros 8000 o’r gwrandawiadau oedd o Brydain.
Mae lledaeniad ‘Celwydd’ wedi trosglwyddo’n fasnachol yn barod, gyda Recordiau Lliwgar yn datgelu eu bod wedi cael llawer o rag archebion dros y dyddiau cyntaf ar ôl cyhoeddi’r gân.
Ac yn fuan iawn roedd trend o werthiant tu hwnt i Gymru’n dechrau datblygu. Yng ngeiriau Meic Parry o Recordiau Lliwgar “nath y ddwy archeb gyntaf ddod o Aberdaron a Rwsia…felly gallet ti ddeud bod y ddwy record gyntaf yn mynd i ben draw’r byd, ac i Rwsia!”
Ac mae nifer o’r archebion ers hynny wedi bod yn rai i bellafion byd hefyd – mae tua hanner y gwerthiant hyd yn hyn wedi bod y tu allan i Gymru yn ôl Meic, gan gynnwys UDA, Canada, Ffrainc ac Awstralia.
Yn ogystal, mae’r ymgyrch wedi arwain at adfywio gwerthiant yr ychydig gopïau o’r Record Goch – sef cyhoeddiad diwethaf Recordiau Lliwgar – oedd yn weddill.
Llwyfan pwysig
Mae’r potensial o ymestyn cerddoriaeth Gymraeg i gynulleidfa dramor, fel mae Ifan Dafydd / Recordiau Lliwgar wedi gwneud, yn un arbennig o arwyddocaol gobeithio.
Mae mwy iddi na dim ond rhoi cân ar Soundcloud wrth gwrs, ac mae’r criw wedi mynd ati i sicrhau erthyglau ar nifer o wefannau cerddoriaeth amlwg fel This is Fake DIY, The Line of Best Fit, Abeano a llawer iawn mwy.
Mae elfen o lwc cofiwch, ond mae rhywun yn gallu creu ei lwc ei hun –gydag ychydig o waith caled, gellir dweud fod y gân, a’r stori am y gân wedi mynd yn feiral!
Yn ddiweddar wrth gwrs mae llawer o drafodaeth wedi bod ynglŷn â phwysigrwydd Radio Cymru fel ffenest siop i gerddoriaeth Gymraeg gyfoes, a does dim amheuaeth fod hynny’n wir.
Wedi dweud hynny, tybed ydy llwyddiant ‘Celwydd’ ac Y Record Las yn awgrymu fod yna lwyfannau llawer iawn mwy pell gyrhaeddgar, a phroffidiol y dylai cerddorion Cymru fod yn canolbwyntio eu hegni arnynt?
Mae un peth yn sicr i mi, mae Recordiau Lliwgar wedi arloesi mewn marchnata cerddoriaeth Gymraeg yn ddigidol.