Portmeirion - lleoliad Gŵyl Rhif 6
Mae dwy ŵyl gerddorol a gafodd eu cynnal yng Nghymru wedi cael eu henwebu yng Ngwobrau’r NME eleni.

Mae’r cylchgrawn cerddorol wedi enwebu Gŵyl Rhif 6, a gafodd ei gynnal ar stâd Portmeirion, a Gŵyl Sŵn, sy’n gael ei chynnal mewn lleoliadau o gwmpas Caerdydd, yng nghategori’r Ŵyl Fach Orau.

Cafodd Gŵyl Sŵn ei sefydlu yn 2007 gan y DJ Huw Stephens a John Rostron sy’n bennaeth y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig.

Dywedodd John Rostron ei fod wedi cael ychydig o “sioc” gyda’r enwebiad.

“Mae pawb sy’n gweithio gyda Sŵn yn mwynhau eu hunain ac yn gwybod ei fod yn ŵyl wych,” meddai.

“Pob blwyddyn, rydyn ni’n cael ymateb gwych. Ond yn aml mae’n teimlo fel ein bod yn gweithio mewn swigen yng Nghymru, ac mae gwybod bod Sŵn yn cael parch tu allan i Gymru yn wych.”

Fe wnaeth NME ddatgelu’r enwebiadau yn gynharach yr wythnos hon ac mae’r cyhoedd yn cael eu gwahodd i bledleisio am eu ffefrynnau ar wefan y cylchgrawn.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo ar 27 Chwefror.