Mae ysgol newydd yn Llundain yn bwriadu gwneud y diwydiant ffilm a theledu “yn fwy agored” ar gyfer disgyblion sy’n awyddus i ddilyn gyrfa yn y maes.
Mae Academi Sgrin Llundain (LSA) yn ysgol chweched dosbarth sy’n cael ei hariannu gan y wladwriaeth, ac mae wedi’i lleoli yn Islington, sydd yng nghanol y ddinas.
Mae sefydlwyr yr ysgol yn cynnwys rhai o brif gynhyrchwyr y diwydiant ffilm a theledu yng ngwledydd Prydain, sef Barbara Broccoli a Michael G Wilson o Eon Productions – cynhyrchwyr ffilmiau James Bond – a Tim Bevan ac Eric Fellner o Working Title Films.
“Fel sefydlwyr, rydym yn credu y dylai pawb sy’n awyddus i greu ffilmiau gael y cyfle i ddilyn gyrfa y tu ôl i’r camerâu yn un o’r nifer o swyddi sydd yn y diwydiant sgrîn,” meddai Tim Bevan.
“Rydym eisiau gwneud y byd ffilm a theledu caeëdig hwn yn un agored. Rydym yn credu y dylai ein gweithlu adlewyrchu’r amrywiaeth a’r cyfoeth diwylliannol sydd yn y ddinas yr ydym yn byw ynddi.”
Mae lle i dros 300 o ddisgyblion rhwng 16 a 19 oed yn ystod y flwyddyn academaidd gyntaf.
Mae cwricwlwm ar gyfer y ddwy flynedd o gwrs y mae disgwyl i ddisgyblion ei gymryd yn cynnwys dysgu am dechnegau ffilmio a derbyn gwybodaeth ynglŷn â sut y gallan nhw gael mynediad i’r diwydiant.