Chrystal Williams (Llun: International Powerlifting Federation)
Mae Prifysgol Bangor wedi dyfarnu ei gwobr chwaraeon flynyddol, Gwobr Goffa Llew Rees, i bencampwraig codi pwysau Ewrop 2017.
Dyfarnwyd y wobr i Chrystal Williams, 21, o Bolton gan ei bod wedi gwneud y cyfraniad mwyaf i godi proffil chwaraeon Prifysgol Bangor drwy ei llwyddiant personol ar lefel ryngwladol.
Mae Chrystal Williams newydd gwblhau ei hail flwyddyn ar y cwrs Seicoleg gyda Niwroseicoleg, ac mae hi wedi cael blwyddyn hynod o lwyddiannus yn cystadlu mewn cystadlaethau rhanbarthol yng ngogledd orllewin Lloegr.
Mae wedi bod yn cystadlu yn y dosbarth iau dan-84kg am y 18 mis diwethaf, ac mae’n dal pedair record Lloegr a Phrydain.
Daeth yn ail ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau Clasurol y Byd yn Belarws ym mis Mehefin 2017, ac ar hyn o bryd mae’n dal y record Ewropeaidd.
Anrhydedd ac uchelgais
“Mae’n anrhydedd ac yn gyflawniad enfawr i gael fy nghydnabod a’m gwobrwyo am y gwaith caled a’r ymroddiad rydw i wedi ei wneud,” meddai Chrystal Williams. “Mae’n golygu fy mod wedi gallu gwthio fy hun i lefel benodol, a byddaf yn gallu parhau i symud ymlaen gyda chymorth gan fy mhrifysgol.
“Mae’r wobr yn golygu llawer oherwydd, yn ogystal â chymorth ariannol i helpu i ariannu offer a chystadlaethau, mae’n dangos imi fod fy mhrifysgol a llawer o rai eraill yn fy annog ac yn gweld fy mhotensial, ac yn barod i’m gwobrwyo.
“Yn y dyfodol rwy’n gobeithio datblygu ymhellach a hyfforddi gan fy mod bellach yn hyfforddwr cymwysedig codi pwysau lefel 1. Hoffwn barhau i gystadlu’n genedlaethol ac yn rhyngwladol i weld pa mor bell y gallaf lwyddo. Mae hyn wedi bod yn brofiad gwych gan ganiatáu imi gwrdd â phobl anhygoel, a theithio o amgylch Prydain a thu hwnt.”